Gwahardd Y Ddraig Goch o'r Eurovision

  • Cyhoeddwyd
EurovisionFfynhonnell y llun, Eurovision

Mae hi wedi dod i'r amlwg fod cystadleuaeth yr Eurovision wedi gwahardd baner Y Ddraig Goch o'r gystadleuaeth.

Fydd gan gefnogwyr y canwr o Rhuthun, Joe Woolford, sy'n rhan o ddeuawd yn cynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth yr Eurovision yn Sweden, ddim hawl i chwifio baner Cymru yn yr arena.

Yn ôl Eurovision, mae rhestr o faneri wedi eu gwahardd yn bodoli er mwyn "sicrhau nad oes negeseuon gwleidyddol yn cael eu cyfleu".

Mae baneri eraill sydd wedi eu henwi ar y rhestr yn cynnwys rhai Palesteina a Gwlad y Basg.

'Rhydd o negeseuon gwleidyddol'

banner

Mewn rhestr ddrafft - a gafodd ei chyhoeddi mewn camgymeriad - roedd baner y Wladwriaeth Islamaidd hefyd ymhlith y rhai sydd wedi'u gwahardd.

Fe fydd baneri'r Undeb Ewropeaidd a lliwiau'r Enfys (sy'n cael ei defnyddio i gynrychioli pobl hoyw) yn cael eu derbyn gan y trefnwyr.

Dywedodd y trefnwyr eu bod wedi "ymrwymo'n llwyr i ddiogelwch y gynulleidfa a'r criw". Ychwanegon nhw mai ar gais lleoliad y gystadleuaeth yn Sweden mae'r polisi baneri wedi ei gyflwyno.

"Mae'n bwysig datgan nad yw'r polisi baneri wedi ei anelu yn erbyn tiriogaethau na sefydliadau penodol, ond mae'n rhaid sicrhau bod y darllediad yn rhydd o negeseuon gwleidyddol," meddai llefarydd.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw'n "ymddiheuro os ydyn nhw wedi pechu unrhyw un mewn unrhyw ffordd".