Y crwt o Ddyffryn Aman
- Cyhoeddwyd
Mae'n un o gymeriadau mwyaf lliwgar y pumed Cynulliad ond wyddoch chi am gefndir Neil Hamilton fel disgybl ysgol yng ngorllewin Cymru?
Cafodd Cymru Fyw air gyda rhai fu'n cyd-oesi gydag e yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman:
Yr 'etholiad'
Mae cylchgrawn 'Y Twrch Trwyth' o 1967 yn adrodd hanes disgybl oedd yn flaenllaw mewn nifer o weithgareddau yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman.
Roedd Neil Hamilton o 6A yn actio, dadlau ac yn chwarae rhan lawn yng ngweithgareddau'r ysgol. Ond sut ddisgybl oedd yr Aelod Cynulliad ac arweinydd newydd UKIP yng Nghymru?
Mae'r actor Dafydd Hywel yn cofio digwyddiad hanesyddol yn 1966, sef blwyddyn Etholiad Cyffredinol:
"Wnes i sefyll ffug etholiad ysgol yn ei erbyn. Roedd y sylwebydd rygbi Alun Wyn Bevan hefyd yn ymgeisydd. Wnes i sefyll dros Plaid Cymru, roedd Alun yn sefyll fel boi'r Blaid Gomiwnyddol. Wnaeth Neil Hamilton sefyll fel Tori wrth gwrs... a wnes i falu fe! Dwy bleidlais gafodd e - ei ffrind e a fe ei hunan!"
Dyn y 'deerstalker'
Mae'r 'comrade' Alun Wyn Bevan yn cofio'r etholiad hefyd. "Wnes i sefyll fel aelod o'r Blaid Gomiwnyddol achos doedd neb arall yn fodlon eu cynrychioli nhw! Ddes i'n ail achos bod fi wedi addo rhoi tunnell o lo i bawb fyddai'n pleidleisio drosto fi.
"Felly wythnos diwethaf oedd y tro cyntaf i Neil Hamilton ennill etholiad yng Nghymru, achos y tro ddiwethaf gafodd ei racso gan Dafydd Hywel a fi!"
Cafodd Neil Hamilton ei eni yn y Coed Duon a daeth i Ddyffryn Aman wedi ei dad gael swydd fel rheolwr pwll glo yn Rhydaman. Roedd y sylwebydd chwaraeon, Alun Jenkins yn yr un dosbarth â'r Aelod Cynulliad ac yn ei gofio'n iawn:
"Am fy mhum mlynedd cynta' yn Aman Valley, o'n i'n eistedd rhwng dau foi enwog dros ben sef Allan Lewis, aeth 'mlaen i hyfforddi tîm Cymru gyda Graham Henry, a Neil Hamilton.
"Fi'n cofio fe achos roedd pawb arall yn normal ac yn ffitio mewn ond ro'dd Neil Hamilton yn dod i'r ysgol mewn deerstalker... wel doeddet ti ddim yn gwneud 'na yn Nyffryn Aman. O't ti'n gallu gweld straight away nad oedd hyn yn normal!"
Cymeriad cartŵn
"Ond whare têg, erbyn o't ti'n dod lan i'r chweched dosbarth, ac yn dod yn gyfarwydd â'r boi, o't ti'n gallu dod 'mlaen 'dag e. Oedd e byth yn un o'r bois, a doedd e ddim yn cymysgu 'da lot o bobl o gwbl.
"Oedd e'n ffrindiau mawr 'da boi o'r Garnant, neu Glanaman o'r enw Roy Davies oedd yn slingyn mawr tal, ac oeddet ti wastad yn gweld y ddou o nhw gyda'i gilydd.
"Oedd hi'n bach o jôc, achos roedd y rhan fwyaf o bobl eraill yn yr ysgol yn Gymry Cymraeg ond roedd Neil a Roy'n sefyll mas fel rhyw ddau cartoon character."
Acen newydd yn Nyffryn Aman
Roedd un peth amlwg arall yn sefyll mas i Alun Wyn Bevan:
"Roedd yr acen anhygoel ma' gyda fe... wel, dweud y gwir, dwi ddim hyd yn oed yn meddwl fod neb yn Lloegr yn siarad gyda'r fath acen.
"Oedd e'n swnio fel rhywun oedd wedi bod i Harrow neu Eton. Beth oedd yn rhyfedd amdano oedd bod y diddordeb mowr ma' gyda fe mewn gwleidyddiaeth o oed ifanc iawn, rhyw 14 neu 15 oed, a phan aeth e lan i Brifysgol Aberystwyth, wel sai'n gwybod beth ddigwyddodd iddo fe wedyn!"
Ond yn ôl i ymgais gyntaf Neil Hamilton i ennill etholiad yr ysgol eto, ac mae Dafydd Hywel wedi bod yn fwy na pharod i rannu ei lwyddiant gydag eraill:
"Pan wnaeth y cyn-newyddiadurwr Martin Bell gipio sedd ddiogel Tatton yn erbyn Hamilton yn Etholiad Cyffredinol 1997, wnes i anfon llythyr ato yn ei longyfarch gan ddweud hanes ein hetholiad ni yn Nyffryn Aman.
"Esbonies i taw ond fe a fi oedd wedi curo Neil Hamilton mewn etholiad 'rio'd a bod hyn yn destun balchder i mi."