Aberdaron i gael Wi-Fi cymunedol yn rhad ac am ddim

  • Cyhoeddwyd
AberdaronFfynhonnell y llun, Google

Mae Aberdaron i gael rhwydwaith Wi-Fi cyhoeddus am ddim mewn cynllun arbrofol.

Does gan nifer o ardaloedd gwledig yng Ngwynedd ddim gwasanaeth ffôn 3G neu 4G, sy'n golygu nad yw pobl yn gallu cysylltu â'r rhyngrwyd na derbyn signal ffôn symudol.

Bydd y cynllun peilot yn cael ei lansio gan Arloesi Gwynedd Wledig dan gynllun Cronfa Amaeth Ewrop i Ddatblygu Cefn Gwlad ac arian o Lywodraeth Cymru.

Mae nifer o fusnesau lleol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn aelodau o Ddolen Twristiaeth Aberdaron a'r Cylch, sy'n cefnogi'r fenter.

Maen nhw wedi caniatáu i beirianwyr osod trosglwyddyddion Wi-Fi yn eu hadeiladau.

Cafodd Aberdaron ei ddewis oherwydd bod miloedd o ymwelwyr yn mynd yno ar eu gwyliau pob blwyddyn.

Dywedodd Geraint Jones, cadeirydd Dolen Twristiaeth Aberdaron a'r Cylch: "Y dyddiau 'ma mae pobl yn disgwyl medru cysylltu â'r rhyngrwyd i rannu gwybodaeth ar Facebook, bwcio gwesty neu ddod o hyd i atyniadau gwyliau.

"Bydd gallu gwneud hyn yn Aberdaron yn beth braf."