Opera Sebon Ukip

  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i chi fod yr ochr anghywir i ddeugain i gofio'r peth ond un o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd y 1980au oedd 'Soap' - rhaglen Americanaidd oedd yn barodi ar operau sebon y cyfnod. Bob wythnos roedd y rhaglen yn cychwyn gyda chrynodeb o droeon trwstan anghredadwy'r penodau blaenorol gan ofyn y cwestiwn hwn. "Confused? You won't be after this weeks episode of Soap."

Mae miwsig agoriadol y gyfres honno fel chwilen yn fy mhen bob dro yr wyf yn gorfod gweithio ar stori'n ymwneud ac Ukip. Disgwyliwch yr annisgwyl. Coeliwch yr anghredadwy. Beth ar y ddaear sydd nesaf?

Roeddwn i'n cloncian yn ddigon dymunol ac un o weision bach Ukip bore ddoe ac yntau'n siarad yn browd am y swydd yr oedd yn disgwyl ei chael gyda'r grŵp. Rhai oriau'n ddiweddarach roedd e ar ei ffordd gartref gyda'i gwt rhwng ei goesau yn poeni ynghylch beth i ddweud wrth ei wraig.

Dywedodd un arall wrthyf "today was meant to the best day of my life, it's turning out to be the worst."

Yr hyn sy'n bwysig sylweddoli ynghylch yr opera sebon arbennig yma yw nad rhyw frwydr fach bersonol Gymreig sy'n mynd ymlaen yn fan hyn.

Dim ond ffŵl fyddai'n credu nad oes gan uchelgais bersonol rhywbeth i wneud ac unrhyw ffrae wleidyddol ond nid uchelgais nac ariangarwch yw'r ffactor penna yn nhrafferthion Ukip Cymru. Ond rhan fach ond hynod bwysig o ffrwgwd llawer iawn fwy yw'r hyn sy'n digwydd ym Mae Caerdydd - brwydr am gorff ac enaid Ukip rhwng Nigel Farage a'i gefnogwyr ar y naill law a mwyafrif aelodau Pwyllgor Gwaith y blaid ar y llall. Nathan Gill yw'r Ffaragwr yn y frwydr Gymreig. Neil Hamilton yw lladmerydd y Pwyllgor Gwaith.

Gyda Neil Hamilton wedi ennill y rownd gyntaf yn y frwydr mae'n bosib y bydd y ddwy garfan yn llwyddo i gelu eu gwahaniaethau rhwng nawr a'r refferendwm Ewropeaidd. Ar ôl hynny gallwn ddisgwyl gwaed ar y muriau. Megis cychwn mai pethau ac os oeddech chi'n meddwl mai tor-briodas Den ac Angie oedd penllanw chwerwder ym myd yr operâu sebon - mae'n bosib bod 'na ysgariad llawer iawn fwy gwaedlyd i ddod.

"Confused, you won't be!"