Dirwy o £100,000 i gwmni bwytai am ddiffyg hylendid
- Cyhoeddwyd
Mae bwyty KFC ym Mhont-y-pŵl wedi derbyn dirwy o £100,000 am droseddau'n ymwneud â hylendid bwyd.
Wrth ymddangos ger bron Llys Ynadon Cwmbrân, fe blediodd y cwmni yn euog i dri chyhuddiad ar ôl clywed y dystiolaeth gan Gyngor Torfaen.
Clywodd y llys bod uwch swyddog iechyd yr amgylchedd o Gyngor Torfaen wedi ymweld â KFC ym Mhont-y-pŵl ar 19 Mai 2015 yn dilyn cwyn nad oedd gan y safle ddŵr poeth, a nifer o faterion yn ymwneud â glanweithdra.
Mae'r gadwyn wedi derbyn holl ganfyddiadau'r ymchwiliad, ac wedi "cyflwyno gwellianau" ers Mai 2015.
Wrth ymweld â'r safle canfuwyd nad oedd unrhyw ddŵr poeth yn y toiledau a'r ardaloedd paratoi bwyd.
Nid oedd dŵr poeth i lanhau'r adeilad ac offer bwyd, ac nid oedd unrhyw ddiheintyddion ar gael i sicrhau bod yr arwynebau a'r offer paratoi bwyd yn ddiogel i'w ddefnyddio.
Cau'r safle
Yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion y cyngor, dewisodd KFC i gau'r safle'n wirfoddol yn syth hyd nes bod y dŵr poeth yn cael ei adfer a'r safle'n cael ei lanhau'n drwyadl.
Ail-agorwyd yr adeilad y diwrnod wedyn.
Oherwydd yr amodau ar y safle yn ystod yr ymweliad cychwynnol gan swyddogion, dyfarnwyd sgôr hylendid bwyd o 0 - sgôr sydd yn galw am welliannau brys.
Ym mis Medi 2015, cafodd y safle ei ail-arolygu a derbyn sgôr hylendid bwyd o 4.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyneira Clark, aelod gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd yn Nhorfaen: 'Mae'n siomedig y gallai KFC wneud y fath gamgymeriadau hylendid bwyd sylfaenol, a rhoddwyd nifer o rybuddion iddynt cyn yr arolygiad gan swyddogion ym mis Mai. Mae dŵr poeth yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer golchi dwylo, offer ac arwynebau'n effeithiol.
"Rydym yn cydnabod bod y bwyty wedi gweithio'n gadarnhaol gyda'n swyddogion trwy gydol eu hymchwiliadau i sicrhau safonau uchel bob amser."
Derbyniodd y cwmni ddirwy o £100,000 yn ogystal â chostau llawn o £4318.86.