Y Fedal Gyfansoddi i George Dolan o Rhuthun
- Cyhoeddwyd
George Dolan, sy'n 18 oed ac yn ei flwyddyn olaf yn Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun, yw enillydd Y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint 2016.
Mae'r darn buddugol, 'Agorawd i'r Tylwyth Teg', yn ensemble chwyth gyda thelyn sydd, yn ôl y beirniad Gareth Glyn, yn "gyfuniad anarferol ac effeithiol".
Mae hefyd yn disgrifio George fel "cyfansoddwr galluog, yn llawn syniadau".
Mae George yn dod o Rhuthun a'r flwyddyn nesaf mae'n gobeithio mynd i Brifysgol Huddersfield i astudio Cerddoriaeth.
Mae cerddoriaeth yn rhoi pleser mawr iddo ac ar wahân i gyfansoddi, mae hefyd yn mwynhau canu'r sacsoffon, recorder a'r obo.
Bydd yn cystadlu ar lwyfan yr Urdd eleni yn yr unawd chwythbrennau ac fel aelod o gerddorfa'r ysgol.
'Cyfansoddiad oedd yn sefyll allan'
Dywedodd George: "Fy uchelgais yw cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau a'r teledu ond fy mwriad ar hyn o bryd, gan fy mod i'n dod o Rhuthun, yw ceisio cyfansoddi cân fuddugol i gystadleuaeth yr Eurovision!"
Yn ôl Gareth Glyn, beirniad y gystadleuaeth: "Dyma'r cyfansoddiad oedd yn sefyll allan o ran gwreiddioldeb a dyfeisgarwch.
"Mae'r newidiadau cymeriad sydyn o adran i adran yn annisgwyl i ddechrau, hyd nes iddi ddod yn glir mai agorawd i opera neu sioe gerdd ydy hon sy'n cyflwyno amrywiol themâu o'r cyfanwaith."
Yn ail roedd Siriol Jenkins o Ysgol y Preseli ac yn drydydd roedd Louie McIver o Ysgol Penarlâg. Noddwyd y seremoni gan Gyngor Sir y Fflint ac fe roddir y wobr gan Hywel Wyn Edwards.