Pryder am gynllun lleihau maint dosbarthiadau
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd i Lywodraeth Cymru wedi cwestiynu cynlluniau gweinidogion i ostwng niferoedd mewn dosbarthiadau babanod.
Dywedodd yr Athro David Reynolds bod tystiolaeth yn awgrymu nad yw lleihau niferoedd i lai na 25 o ddisgyblion yn cael canlyniadau sylweddol.
Yn ei farn ef, byddai gwario arian ar ddatblygiad proffesiynol athrawon yn well.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y polisi yn bwysig i rieni, a gallai leihau pwysau gwaith ar athrawon.
Mae'r polisi yn rhan o'r cytundeb thwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol welodd Kirsty Williams yn cael ei phenodi yn ysgrifennydd addysg yng nghabinet Carwyn Jones.
Mae pryder hefyd am y polisi o fewn y Blaid Lafur ei hun.
Dywedodd AC Llafur, Jenny Rathbone y gallai'r cynllun ddefnyddio rhan helaeth o'r £100m ychwanegol wnaeth y blaid addo ei wario ar addysg yn ei maniffesto.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai "pob ymrwymiad newydd yn cael ei ariannu gan doriadau o ryw fan arall".
Dywedodd yr Athro Reynolds: "Os ydych chi'n edrych ar y dystiolaeth academaidd dydych chi ddim yn cael llawer o leihau maint dosbarthiadau.
"I gael canlyniadau mae'n rhaid i chi leihau maint y dosbarth yr holl ffordd i lawr i lai na 20 disgybl.
"Os ydych chi'n cyflogi mwy o athrawon neu gymhorthyddion mae hynny'n mynd i gostio, ac mae polisïau eraill fel gwella capasiti a gwybodaeth athrawon am addysg a sgiliau dysgu yn rhoi mwy o werth am arian."
'Cefnu ar ein haddewid'
Ychwanegodd Ms Rathbone: "Mae hi'n ymddangos ein bod yn troi ein cefnau ar ein haddewid i wario £100m ychwanegol ar safonau ysgolion.
"Rwy'n deall bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhagweld y byddai lleihau niferoedd yn y dosbarthiadau yn costio £42m dros bum mlynedd.
"O ble fydd yr arian yna'n dod?"
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod lleihau niferoedd i lai na 25 o ddisgyblion yn bwysig i rieni ac y gallai leihau pwysau gwaith athrawon.
"Dyma pam ei fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae'n deillio o'r cytundeb gafodd ei wneud rhwng y Prif Weinidog a Kirsty Williams," meddai'r llefarydd.
"Nid maint dosbarthiadau yw'r unig ffordd o sicrhau gwelliannau yn ein hysgolion ac fe fyddwn ni wrth gwrs yn parhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant athrawon, datblygiad proffesiynol a safonau ysgolion."