UKIP yn 'barod i gefnogi' llwybr du yr M4 - Hamilton
- Cyhoeddwyd
Mae UKIP yn barod i gefnogi'r llwybr du ar gyfer y ffordd osgoi'r M4, gan helpu Llywodraeth Cymru gael ei chynlluniau drwy'r Senedd.
Dywedodd arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Neil Hamilton, mai eu bwriad ym Mae Caerdydd oedd bod yn "adeiladol".
Roedd maniffesto UKIP o blaid y llwybr glas, sy'n fyrrach ac yn rhatach.
Y llwybr du £1.1bn mae'r llywodraeth yn ei ffafrio, ond mae Plaid Cymru, yr Ysgrifennydd Addysg o'r Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, a rhai ACau Llafur yn gwrthwynebu.
'Barod i drafod'
Dywedodd Mr Hamilton yn y Senedd ddydd Mercher y gallai ei blaid newid eu safbwynt drwy gefnogi'r llwybr du gan ei fod yn "well na dim llwybr".
Ychwanegodd: "Fe ddaethom i'r lle yma i fod yn adeiladol yn ein safle ac rydym eisiau chwarae'r rôl y mae Plaid Cymru nawr yn honni eu bod yn chwarae, o ran datblygiad polisi'r llywodraeth.
"Rwyf eisiau dweud, o ran y llwybr du, bod fy mhlaid yn barod i drafod gyda'r llywodraeth.
"Fel y gwnes i ddweud yn gynharach, rydym yn credu fod y llwybr du yn well na dim llwybr o gwbl ac, os ydyn hwn yn angenrheidiol er mwyn dadflocio'r rhwystr, rydym yn barod i chwarae ein rhan."
Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn "gwrando ar beth ddywedodd arweinydd UKIP. Mae'n bwysig fod y broses nawr yn symud ymlaen".
Ychwanegodd y prif weinidog bod hi'n anodd gweld "dewis amgen" i'r llwybr du.
'Diddorol'
Mae disgwyl penderfyniad ar ymchwiliad cyhoeddus i'r cynllun cyn toriad yr haf yn y Cynulliad, gyda disgwyl i'r adeiladu ddechrau yn 2018.
Fe wynebodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, feirniadaeth gan Lafur a UKIP yn ei hymgais i fod yn brif weinidog yn y Senedd fis diwethaf.
Dywedodd wrth Mr Jones: "Mae'n edrych yn debyg y gallwch ddod i gytundeb gyda UKIP, brif weinidog, ar ddyfodol y llwybr du. Mae hynny'n ddiddorol iawn."