Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?

  • Cyhoeddwyd

Pan oeddwn i'n grwt roedd y teulu yn cadw ieir yn yr ardd gefn a'n nhasg i oedd eu bwydo a chasglu'r wyau. Gwynfor oedd enw'r ceiliog a Harriet, Jemima a Georgia oedd ei gymheiriaid. Cewch chi weithio mas ar ôl pwy yr oedd y dofednod wedi eu henwi - ond efallai bod hi'n help i chi wybod taw casglu llofnodion gwleidyddion oedd fy hobi ar y pryd!

Chwi gasglwch o hynny fy mod wedi bod â dileit mewn gwleidyddiaeth ers i mi fod yn fach a does yr un digwyddiad gwleidyddol wedi methu ac ennyn fy niddordeb ers hynny. Roedd hyd yn oed y pleidleisiau sych ar y Sul a refferendwm y bleidlais amgen yn ddigon i hela 'nghalon i rasio.

Nid hwn. Dim y tro yma. Rwyf wedi diflasu'n llwyr, wedi cael digon, llond bol o'r peth.

Cyfeirio ydw i at y refferendwm Ewropeaidd, wrth gwrs, ond yn fwy arbennig at denor y ddau ymgyrch - dwy domen o negyddiaeth sy'n cystadlu â'i gilydd i godi braw a darogan gwae.

Mewn un ystyr roedd hynny'n anorfod. O safbwynt yr ochr 'aros' mae'r rheiny sydd a'u calonnau'n cyflymu o glywed bariau agoriadol 'An die Freude' eisoes yn eu cornel. Pa werth sy 'na mewn gwastraffu'ch anadl ar y rheiny sydd eisoes yn addoli Jean Monnet?

Yn yr un modd byddai chwarae 'Rule Brittania' ar yr uchelseinydd a chwifio baner San Siôr yn dwyn fawr o elw i'r ochor 'gadael'. Mae'r rheiny sy'n hoffi pethau felly wedi hen benderfynu yn lle y bydd eu croes.

Rydym yn byw mewn byd o fwganod a chorachod felly, un lle mae afanc ym mhob llyn a bwnshi ym mhob cors a'r unig fordd i fod yn ddiogel yw trwy bleidleisio dros... wel, penderfynwch chi.

Nawr mae i hyn oll oblygiadau hir dymor beth bynnag yw canlyniad y refferendwm. Pa ochor bynnag sy'n ennill mae hi bron yn anorfod y bydd cyfran sylweddol o'u gwrthwynebwyr o'r farn bod y bleidlais wedi ei thwgyd ac nad yw'r mater mewn gwirionedd wedi eu setlo.

Mae'n ymddangos i mi felly bod dyddiau David Cameron fel Prif Weinidog yn prysur dynnu i ben beth bynnag yw'r canlyniad mewn pythefnos. O golli, does fawr o amheuaeth gen i y byddai'n rhaid iddo ymddiswyddo o fewn wythnosau os nad dyddiau i'r canlyniad. Pe bai'r etholwyr yn pleidleisio dros aros ar y llaw arall fe fyddai carfan o rebeliaid Ceidwadol yn ei gwneud hi bron yn amhosib iddo lywodraethu.

Enoch Powell oedd yn gyfrifol am y wireb bod gyrfa pob gwleidydd yn diweddu mewn methiant ond mae 'na rywbeth Wagneraidd bron yn y götterdämmerung sy'n disgwyl David Cameron a'r eironi yw ei fod wedi dwyn y cyfan ar ei ben ei hun.