Pili Palas
- Cyhoeddwyd
Pwy yw'r arweinydd salaf yn hanes y blaid Lafur? Am dri chwarter canrif yr un fyddai'r ateb gan unrhyw lafurwr. Ramsay MacDonald oedd y bwgan mawr - y prif weinidog wnaeth gefnu ar ei blaid ei hun gan ddod yn agos iawn yn sicrhau ei thranc. Go brin y byddai'r blaid byth eto yn dewis arweinydd mor niweidiol!
Gyda'r blaid yn wynebu ei hargyfwng mwyaf ers 1931 mae'n ymddangos i mi y gallasai Ramsay Mac golli ei goron - ond nid Jeremy Corbyn sydd debycaf o'i chipio ond Ed Miliband.
Mae 'na ddamcaniaeth gellweirus yng nghoridorau gwleidyddiaeth sy'n beio Aelod Seneddol Pudsey, Stuart Andrew, am y bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Fersiwn o'r "butterfly effect" - yr honiad y gall adenydd iâr fach yr haf achosi corwynt yw'r ddamcaniaeth sy'n llwytho bai ar ysgwyddau'r Monwysyn hawddgar.
Yn ôl y ddamcaniaeth hon pe na bai Stuart wedi mynd am ddiod i'r Strangers Bar yn ôl yn 2012 yna ni fyddai'r aelod seneddol Llafur Eric Joyce wedi ymosod arno'n gorfforol. Pe na bai hynny wedi digwydd ni fyddai'r blaid Lafur yn Falkirk wedi bod yn chwilio am ymgeisydd newydd a byddai 'na ddim posibilrwydd felly bod undeb 'Unite' wedi ceisio fficsio'r enwebiad.
Oni bai am sefyllfa Falkirk, byddai Ed Miliband ddim wedi trafferthu i newid perthynas ei blaid â'r undebau, ac heb y newid hwnnw fyddai dim gobaith caneri gan Jeremy Corbyn i ennill arweinyddiaeth Llafur. Y cysylltiad olaf yn y gadwyn hir hon yw'r mwyaf dadleuol sef hwn; dim Corbyn = dim Brexit.
Nawr fedrwch chi herio unrhyw un o'r cysylltiadau hynny, yn enwedig yr un olaf. Yn bersonol, rwy'n llwyr dderbyn nad Stuart sy'n gyfrifol am Brexit - ond fe ddylai Ed Miliband dderbyn ei siâr o'r bai am gyflwr ei blaid ei hun a'n gwleidyddiaeth yn fwy cyffredinol.
Trwy newid trefn bleidleisio'r blaid Lafur i ddewis ei harweinydd ac yna thrwy ei heglu hi'r eiliad yr oedd yr etholiad cyffredinol wedi ei golli fe wnaeth Miliband ganiatáu i'w blaid syrthio i'w thrybini presennol.
Yr eironi yw bod ei gamgymeriad mawr yn rhyfeddol o debyg i gamgymeriad trychinebus David Cameron i addo refferendwm mewn neu mas ynghylch Ewrop. Roedd Miliband a Cameron ill dau yn chwilio am ffics fach hawdd i broblemau byrdymor oedd yn llawer llai difrifol nag oedden nhw'n ymddangos - dylanwad yr undebau yn achos Miliband, bygythiad Ukip yn achos Cameron. Mae canlyniadau eu penderfyniadau bellach yn amlwg i bawb.
Nid fy lle i yw barnu a ddylai gwleidyddion aeddfed ymddwyn felly - cewch chi fod yn rheithgor. Pwy yw'r arweinydd Llafur gwaethaf, MacDonald, Miliband neu Corbyn? Tra ein bod ni wrthi, â phwy mae cymharu David Cameron tybed? Anthony Eden efallai neu Lord North o bosib - wedi'r cyfan fe gollodd hwnnw gyfandir hefyd!