Euro 2016 'wedi 'newid pêl-droed yng Nghymru am byth'
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr Cymru wedi canmol perfformiad y tîm pêl-droed Cenedlaethol yn Euro 2016, gan ddweud bod hyn wedi newid pêl-droed yng Nghymru am byth.
Daeth taith Cymru yn y bencampwriaeth i ben neithiwr wrth golli 2-0 i Bortiwgal yn y rownd gynderfynol.
Sgoriodd Ronaldo a Nani yn gynnar yn yr ail hanner i Portiwgal yn Lyon.
Wedi hanner cyntaf nerfus, daeth Portiwgal allan yn gryf yn yr ail hanner, gan atal Cymru rhag chwarae eu gêm arferol.
Er i Bale ddangos fflachiadau o'i orau ar adegau, nid oedd yn gallu ysbrydoli Cymru gyda gôl.
Fe newidiodd Coleman y tîm wedi'r goliau, gan ddod a Jonathan Williams, Sam Vokes a Simon Church ymlaen i'r cae, ond prin oedd y cyfleoedd i'r eilyddion.
Mae Portiwgal nawr yn symud ymlaen i'r rownd derfynol, lle bydd Ffrainc neu'r Almaen yn eu hwynebu.
Roedd y cefnogwyr yn amlwg yn siomedig wedi'r chwiban olaf, ond yn ôl Lee Smith, 36 oed o Aberhonddu, "gobeithio" bod perfformiadau y tîm wedi newid pêl-droed Cymru am byth.
Roedd Morgan Haggett, 17 wedi gwylio`r gêm y ffanbarth Place de Bellecour.
"Mae e wedi bod yn brofiad arbennig.
"Gallwn ni o'r diwedd brofi i gefnogwyr rygbi - dyma bêl-droed Cymru, ti'n deall?"
Fe gymeradwyodd chwaraewyr Cymru eu cefnogwyr ar ddiwedd y gêm, a dywedodd Gareth Bale: "Yn amlwg rydym yn siomedig. Rydym eisiau diolch i'r cefnogwyr.
"Yn amlwg, nhw gafodd y gôl gyntaf, ac roedd yr ail yn siomedig.
"Rydym yn genedl falch ac yn falch o beth rydym wedi ei wneud," meddai.
"Mae'n rhaid bod yn falch, rydym yn siomedig o beidio â chyrraedd y ffeinal ond rydym yn falch o'r hyn rydym wedi ei wneud, a byddwn yn ailddechrau ar ôl hyn."
'Rhaid bod yn falch'
Roedd amcangyfrif fod 20,000 o gefnogwyr Cymru wedi teithio i Lyon.
Dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman: "Rydym i gyd wedi ein siomi ond mae'n rhaid i ni gyd fod yn falch.
"Y modd rydym wedi bihafio, y modd mae'r cefnogwyr wedi ymddwyn. Rydym wedi cael ein siâr o ennill, nawr rydym yn cael ein siâr o golli.
"Fe wnaethom ei chael yn anodd yn erbyn eu canol cae nhw.... ond allwn i ddim â bod wedi gofyn mwy o'r chwaraewyr."