Cofeb i nodi 50 mlynedd ers isetholiad Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Cofeb Gwynfor EvansFfynhonnell y llun, Alun Lenny
Disgrifiad o’r llun,

Cofeb Gwynfor Evans

Mae cofeb wedi cael ei dadorchuddio yng nghanol Caerfyrddin ddydd Sadwrn er mwyn nodi 50 mlynedd ers isetholiad 1966, gyda Plaid Cymru yn ennill eu sedd cyntaf erioed yn Nhŷ'r Cyffredin yn dilyn buddugoliaeth Gwynfor Evans.

Ar y pryd cafodd y canlyniad ar 14 Gorffennaf 1966 ei ddisgrifio gan rai fel "daeargryn gwleidyddol" ac yn fuan wedi buddugoliaeth Mr Evans, fe wnaeth yr SNP ennill eu sedd gyntaf yn yr Alban.

Bydd plac efydd mawr gan y cerflunydd Cymreig Roger Andrews yn cael ei ddadorchuddio y tu allan i'r Neuadd Ddinesig - Y Guildhall - lle wnaeth Mr Evans ddathlu ei fuddugoliaeth.

Cyfraniadau cyhoeddus sydd wedi talu am y gofeb ac Ymddiriedolaeth Gwynfor Evans fu'n gyfrifol am drefnu'r gwaith.

Ffynhonnell y llun, Peter Hughes Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Gwynfor Evans yn annerch y dorf ar ôl y fuddugoliaeth

"Mae'n bwysig cofio am fuddugoliaeth Gwynfor yn 1966 gan fod hynny wedi newid holl hanes gwleidyddol Cymru," meddai Peter Hughes Griffiths, ar ran yr Ymddiriedolaeth.

"Ni fyddai Senedd yng Nghaerdydd heddiw oni bai am Gwynfor Evans.

"Dyna pam mae'n bwysig gosod cofeb yng Nghaerfyrddin i nodi cyfraniad y gŵr arbennig hwn," meddai Mr Davies sydd hefyd yn gynghorydd sir."

Cafodd y gofeb yn cael ei dadorchuddio gan aelod o deulu Mr Evans a Cyril Jones, ei asiant yn ystod yr isetholiad.

Ar ôl y dadorchuddio roedd yna wasanaeth yng nghapel Heol Awst, gydag AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Jonathan Edwards yn darllen rhannau o araith gyntaf Gwynfor Evans i Dŷ'r Cyffredin ym 1966.

Cafodd yr isetholiad ei gynnal yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Megan Lloyd George, merch y cyn brif weinidog Rhyddfrydol David Lloyd George.

Rhai wythnosau yng nghynt roedd Mr Evans wedi gorfod bodloni ar y trydydd safle mewn etholiad cyffredinol.

Ffynhonnell y llun, Peter Hughes Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Torf yn dathlu buddugoliaeth Gwynfor Evans yn 1966

Ffynhonnell y llun, Alun Lenny
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf yn Sgwâr Caerfyrddin 2016 ar gyfer y dadorchuddio