Cynlluniau i wahardd cŵn yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar y gweill i wahardd cŵn o ardaloedd penodedig yn Sir Ddinbych mewn ymdrech i fynd i'r afael a phroblem baw cŵn.
Fe fydd y cyngor yn ymgynghori â'r cyhoedd ar y cam i gyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Mae'r gyfraith yn caniatáu awdurdodau i wahardd cŵn o ardaloedd fel parciau chwarae plant, meysydd chwaraeon a mynwentydd a'i gwneud hi'n ofynnol i berchnogion gadw'u cŵn ar dennyn mewn mannau.
Dirwyon
Yn 2014-15, rhoddodd Sir Ddinbych fwy o hysbysiadau cosb penodedig o £75 nad unrhyw awdurdod arall yng Nghymru, ac mae 45 o hysbysiadau wedi eu rhoi eleni.
Ar hyn o bryd, mae 24 achos yn mynd drwy'r llysoedd yn erbyn pobl sydd ddim wedi talu'r ddirwy.
Mae staff cyngor yn gweithio gydag ymgynghorwyr amgylcheddol Kingdom Security Ltd ar gynghori perchnogion cŵn, casglu gwybodaeth ar droseddwyr cyson a thargedu mannau lle mae troseddu'n digwydd yn aml.
Yn ddiweddar, prynodd y cyngor gamerâu cylch cyfyng i'w gosod yn yr ardaloedd hynny er mwyn cofnodi troseddau.
Yn ogystal â hynny, yn dilyn nifer o gwynion, mae swyddogion wedi bod yn cynnal patrolau mewn sawl ardal yn ddiweddar, gan gynnwys Llandyrnog, Cynwyd, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanrhaeadr a Henllan.