Dadorchuddio cofeb i gofio am drychineb cwch 1966
- Cyhoeddwyd
Mae cofeb wedi cael ei dadorchuddio yng Ngwynedd ddydd Gwener i gofio am 15 o bobl a fu farw ar ôl i gwch suddo ym Mhwll Penmaen ger Dolgellau yn 1966.
Fe wnaeth cwch The Prince of Wales suddo ar 22 Gorffennaf 1966 pan yn cludo chwech o bobl yn fwy na'r hyn oedd yn gyfreithiol.
Penderfynodd ymchwiliad fod capten y cwch wedi bod yn esgeulus.
Roedd yna 42 o bobl ar fwrdd y fferi ar gyfer y daith wyth milltir o'r Bermo i westy'r George III.
Penderfynodd yr ymchwiliad fod capten y cwch, Edward Llewelyn, oedd yn 73 oed ar y pryd, wedi bod yn esgeulus.
Wrth deithio yn araf tuag at y man glanio, fe wnaeth y llanw wthio'r cwch i mewn i bont, gan daflu'r holl deithwyr i mewn i'r dŵr.
Un o'r rhai oedd yn dyst i'r ymdrech i achub y bobl oedd Ron Davies, 82 oed, a lwyddodd i achub dau fachgen.
"Byddwn wedi gobeithio gwneud mwy," meddai, "ond dyna ni, dim ond hyn oedd hi'n bosib i mi ei wneud."
Dydi'r rhai fu'n rhan o'r ymdrech i achub pobl o'r dŵr erioed wedi derbyn cydnabyddiaeth swyddogol, ond mae'r gofeb newydd yn diolch iddyn nhw.