'Gallai Llafur Cymru dorri'n rhydd o'r blaid Brydeinig'

  • Cyhoeddwyd
Leighton Andrews
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leighton Andrews yn rhybuddio y gallai ailethol Jeremy Corbyn fod yn drychineb i Lafur

Fe allai'r Blaid Lafur yng Nghymru dorri'n rhydd o'r blaid drwy'r Deyrnas Unedig, petai Jeremy Corbyn yn parhau'n arweinydd, yn ôl un o gyn weinidogion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Leighton Andrews fod yr etholiad sydd ar y gweill i ddewis arweinydd yn fater "difrifol iawn".

Rhybuddiodd y byddai'n anoddach i Lafur elwa mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru petai Mr Corbyn yn cael ei ailethol.

Dywedodd Mr Andrews na fyddai'n diystyried unrhyw beth, ac y gallai Llafur Cymru "yn sicr" fod yn annibynnol.

Mae cefnogwyr Mr Corbyn, ar y llaw arall, yn dadlau fod yr arweinydd presennol yn boblogaidd gan bleidleiswyr Cymru.

Mae cyn Aelod Cynulliad y Rhondda - gollodd ei sedd i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai - yn cefnogi Owen Smith yn yr ornest i ddewis arweinydd newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Corbyn

Wrth siarad ar raglen BBC Radio Wales, Sunday Supplement fore Sul, dywedodd Mr Andrews: "Dwi'n credu - os caiff Jeremy Corbyn ei ailethol - y bydd yn drychineb i Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf, pryd bynnag y caiff ei gynnal."

Dywedodd cyn weinidog gwasanaethau cyhoeddus Cymru ei bod hi'n "anodd iawn darllen" yr hyn allai ddigwydd petai'r arweinydd presennol yn ennill.

Pan ofynnwyd iddo beth fyddai'r ymateb petai Mr Corbyn yn ennill, dywedodd: "Yn bendant, dwi'n meddwl.. y gallen ni weld Plaid Lafur ar wahan yng Nghymru.

"Fyddwn i ddim yn diystyried dim byd ar hyn o bryd."

Dywedodd Mr Andrews mai'r etholiad yma "o bosib yw'r cyfle olaf i'r Blaid Lafur."

"Mae Llafur wedi colli'r Alban, mae hi i lawr i un AS yno, mae'r sefyllfa'n wahanol yn Lloegr, ond dwi o'r farn ein bod ni mewn cyfnod difrifol iawn," meddai.

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl y bydd hi'n anoddach i wneud cynnydd yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf os bydd Corbyn yn cael ei ailethol."