Rhybudd wrth i fwy o bobl dresbasu ar reilffyrdd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi rhyddhau fideo CCTV i geisio atal pobl rhag mynd ar reilffyrdd

Mae'r heddlu wedi rhybuddio pobl ifanc i gadw oddi ar reilffyrdd ar ôl i ffigyrau newydd ddangos bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n tresbasu ar linellau rheilffyrdd yng Nghymru.

Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain bod cynnydd o 19% wedi bod, o 108 o ddigwyddiadau yn 2014 i 128 y llynedd.

Esboniodd yr Heddlu Trafnidiaeth fod gwyliau'r haf yn ychwanegu at y peryglon, gyda phobl ifanc ddwywaith yn fwy tebygol o dresbasu yn yr haf nag yn y gaeaf.

Mae bron i 170 o bobl ifanc wedi marw yn y DU yn y 10 mlynedd diwethaf ar ôl tresbasu ar reilffyrdd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Tracey Young o Network Rail Cymru: "Rydyn ni'n annog rhieni i atgoffa eu plant bod llinellau rheilffyrdd yn llefydd peryglus.

"Efallai ei bod yn ymddangos yn syniad da i gymryd llwybr byr neu'n hwyl i chwarae ar y traciau, ond mae hyn nid yn unig yn anghyfreithlon, mae'n berygl hefyd."

O'r rheiny fu farw dros y degawd diwethaf, cafodd 72% eu taro gan drên, fe gafodd 17% eu lladd gan drydan ac fe wnaeth eraill ddisgyn o drenau.