Y Cymry Olympaidd // Welsh Olympic Heroes

  • Cyhoeddwyd

Mae 24 o Gymry yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2016 y Rio de Janeiro. Dros y degawdau mae nifer o Gymry wedi ennill medalau ar un o lwyfannau mwyaf y byd chwaraeon. Dyma ddetholiad o rai o'r unigolion sydd wedi llwyddo:

As Welsh athletes prepare for the 2016 Olympic Games in Rio de Janeiro we take a look back at Wales' greatest ever Olympians:

Paulo Radmilovic

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd y nofiwr o Gaerdydd bedair medal aur Olympaidd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Yn 1928 Radmilovic oedd y person cyntaf o Brydain i gystadlu mewn pump Gemau Olympaidd gwahanol // // The swimmer from Cardiff won four Olympic golds at the beginning of the Twentieth Century. In 1928 he became the first Briton to appear in five different Olympic Games.

David Broome

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y marchog David Broome fedalau efydd yng Ngemau Olympaidd Rhufain 1960 a Mexico City 1968. Mae o bellach yn Llywydd Cymdeithas Neidio Ceffylau Prydain // Broome won Olympic bronze at the 1960 Rome Olympic Games and the Mexico City Games in 1968. In 2013 he took up the role of President of the British Showjumping Association.

Lynn Davies

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Lynn Davies y fedal aur yng nghystadleuaeth y Naid Hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 1964. Roedd yn Bersonoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn 1964 a 1966 // Lynn Davies won gold at the 1964 Tokyo Olympics. He was named BBC Wales Sports Personality of the Year twice, in 1964 and 1966.

Richard Meade

Disgrifiad o’r llun,

Richard Meade yw'r marchog Olympaidd mwyaf llwyddiannus erioed o Ynysoedd Prydain. Enillodd fedal aur yn Mexico City yn 1968 ac enillodd ddwy fedal aur arall yn Munich yn 1972. Bu farw yn Ionawr 2015 yn 77 oed // Meade is the most succesful British equestrian in the history of the Olympics. He won gold in Mexico in 1968 and two more golds in Munich in 1972. He died in January 2015 aged 77.

Colin Jackson

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Colin Jackson yn Bencampwr Byd, Ewrop a'r Gymanwlad ac yn dal record y byd y y Ras 110m dros y clwydi. Ond medal arian gafodd o yng Ngemau Olympaidd Seoul yn 1988. Enillodd Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru deirgwaith // Colin Jackson won World, European and Commonwealth Gold medals, as well as being a world record holder for years. However it was the silver medal he got in the Seoul Olympics in 1988. He won BBC Wales Sports Personality of the year three times.

Tanni Grey-Thompson

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Tanni Grey-Thompson 11 medal aur, pedair medal arian a dwy efydd yn y Gemau Paralymapaidd rhwng 1988 a 2004. Tanni oedd y paralympydd mwyaf llwyddiannus erioed o Gymru yn rasio mewn nifer o rasus cadair olwyn // Tanni Grey-Thompson won 11 golds, four silvers and two bronzes at Olympic Games between 1988 and 2004. Tanni is Wales' most succesful ever paralympian.

Jamie Baulch

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jamie Baulch yn aelod o'r tîm enillodd y fedal arian yn y ras gyfnewid 400m yn Atlanta yn 1996 // Baulch won Olympic silver medal in the 400m relay in the Atlanta Olympics, 1996.

Iwan Thomas

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Iwan Thomas yn Gymro arall a hefyd yn aelod o dîm Prydain a ddaeth yn ail yn y ras gyfnewid 400m yng Ngemau Olympaidd Atlanta, 1996 // Iwan Roberts was also in the team that won Olympic silver in the 400m relay at the Atlanta Games.

David Davies

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y nofiwr o'r Barri fedal efydd yn yn y ras 10km yn Athen yn 2004 cyn mynd un well a chael y medal arian yn y ras 1500m yn Beijing yn 2008. Mae ganddo sawl record nofio Prydain i'w enw // David Davies from Barry won bronze for the 10km swim at the Athens Olympics in 2004 before going one better and winning silver for the 1500m at Beijing Games in 2008. He's had several British records next to his name.

Nicole Cooke

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nicole Cooke o Ben-y-bont fedal aur ar ei beic yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008. Enillodd aur yng Ngemau'r Gymanwlad 2002 ac hi oedd Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn 2003 // Nicole Cooke from Bridgend won gold at the 2008 Beijing Games. She was a Commonwealth gold medalist in 2002 and won the BBC Wales Sport's Personality of the Year Award in 2003.

Tom James

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tom James o Goedpoeth ger Wrecsam yn aelod o'r tîm â enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008 a Llundain, 2012 // Tom James from near Wrexham won gold medals in the coxless fours rowing at the 2008 Beijing Olympics and the 2012 London Olympics

Geraint Thomas

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Geraint Thomas fedalau aur yng Ngemau Olympaidd 2008 a 2012 // Cardiff born Geraint Thomas won Olympic golds at the 2008 and 2012 Olympics

Jade Jones

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Jade Jones o'r Fflint fedal aur Taekwondo yn Llundain yn 2012 // Jade Jones from Flint won a gold medal in Taekwondo at the 2012 London Olympics

Fred Evans

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Fred Evans fedal arian yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012 yn y pwysau Welter // Welterweight boxer Fred Evans won a silver medal at the 2012 London Olympics