Gofal dwys Cymru yn 'rhy llawn a heb digon o staff'
- Cyhoeddwyd
Mae adrannau ysbytai yng Nghymru sy'n trin y cleifion mwyaf gwael yn rhy llawn ac yn brin o staff, yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl yr adroddiad mae rhai adrannau gofal dwys wedi bod yn orlawn pan mae'r galw yn uchel, er i ganllawiau ddweud y dylai unedau redeg gyda 65-70% o'u capasiti am gleifion.
Ym mis Ionawr 2015, roedd unedau Cymru yn rhedeg ar 107% o'u capasiti.
Mae unedau gorlawn yn arwain at ganslo llawdriniaethau ac oedi wrth dderbyn pobl i mewn i ysbytai.
Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru bod gofal i bobl difrifol wael yn "her" ac mae'r llywodraeth am i fyrddau iechyd greu "cynllun clir" dros y 12 mis nesaf i wella'r sefyllfa.
Yn ôl yr adroddiad, mae'r galw am ofal dwys yn debyg o gynyddu wrth i'r boblogaeth heneiddio, ac mae'n dweud bod y gweithlu yn "dechrau profi mwy o straen ac ansicrwydd" yn barod.
Dywed yr adroddiad nad yw 50% o unedau brys yn cyrraedd safonau staffio ymgynghorwyr, ac nad yw 80% yn cyrraedd safonau staffio meddygon iau.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fyrddau iechyd greu "cynllun clir" i fynd i'r afael â'r sefyllfa yn y 12 mis nseaf.
66% yn dioddef oedi
Mae'r adroddiad hefyd yn feirniadol o oedi wrth ryddhau cleifion o unedau brys, gan ddweud bod 66% o gleifion wedi dioddef oedi o dros bedair awr, er y targed i 95% o gleifion gael eu rhyddhau o fewn yr amser yna.
Yn 2015/16, roedd hynny'n golygu bod 145,662 o oriau gwlâu gofal dwys - neu 17 o welyau ychwanegol am flwyddyn - wedi eu colli wrth aros i ryddhau cleifion.
Dywed yr adroddiad bod "problemau gyda llif ysbytai cyfan" yn gyfrifol, a bod ysbytai'n gweithredu "heb wlâu ward rhydd".
5.9 gwely i bob 10,000
Mae tua 9,500 o gleifion yn cael triniaeth mewn unedau gofal dwys bob blwyddyn yng Nghymru, ond mae'r nifer y gwlâu gofal dwys yn un o'r isaf yn Ewrop.
Mae 5.9 o wlâu gofal dwys i bob 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru.
Dros Ewrop y nifer cyfartalog yw 11.5, ac mae'r uchaf yn yr Almaen, lle mae 29.2 i bob 10,000.
Mae'r adroddiad yn dweud bod hynny'n rhoi pwysau ar unedau a bod angen i fyrddau iechyd sicrhau bod "cynlluniau cadarn" i ddelio gyda'r galw.
Er y feirniadaeth, mae'r adroddiad yn dweud ei fod yn "galonogol" bod cyfraddau marwolaeth ar lefel fyddai'n cael ei ddisgwyl dros y rhan fwyaf o Gymru.
Mae'n codi pryderon am Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond mae hefyd yn dweud bod gofal dwys i oedolion yn well na'r disgwyl yno.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod disgwyl i'r bwrdd iechyd wella'r sefyllfa mor fuan â phosib, gan ychwanegu bod gwelliannau dros Gymru yn galonogol.
Ymhlith y gwelliannau mae:
Cyfraddau goroesi mewn adrannau gofal critigol yn codi - 83% o'i gymharu â 79% yn 2011-12
Yn ystod chwarter cyntaf 2016, llai nag 1% o'r holl gleifion gofal critigol a gafodd eu haildderbyn i'r ysbyty o fewn 48 awr ar ôl eu rhyddhau
Nifer y cleifion mewn unedau gofal critigol sydd wedi profi'n bositif am MRSA neu C.Difficile wedi gostwng dros amser
Gwelliant yn 'galonogol'
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething bod yr adroddiad yn "dangos ein hymrwymiad i fod yn dryloyw".
"Mae'n nodi hefyd pa welliannau y mae angen i'r GIG eu gwneud er mwyn inni allu gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael gafael ar ofal critigol ardderchog ledled Cymru."
Dywedodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru bod "darparu gofal i gleifion difrifol wael yng Nghymru yn her, felly mae'n galonogol gweld gwelliant mewn rhai meysydd o ofal critigol yng Nghymru".
"Er hynny, mae angen inni fynd ati nawr i adeiladu ar hyn a gweithredu'n gyflym i ymdrin â meysydd lle mae'r gwaith o wneud cynnydd yn fwy o broblem.
"Mae'r Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys wedi dangos yn glir ein bod ni - fel rhannau eraill o'r DU ac ymhellach na hynny - yn wynebu heriau o ran recriwtio ac o ran y cynnydd yn y galw am ofal.
"Ry'n ni eisiau taclo'r heriau hynny'n uniongyrchol - gyda'n timau clinigol - a sicrhau bod gwasanaethau'n gwella."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i'r adroddiad gan ddweud bod angen i'r llywodraeth Lafur gymryd "camau drastig" os ydyn nhw am daclo'r broblem wrth i gymdeithas heneiddio.
"Mae'r adroddiad yn codi materion difrifol sydd yn rwsytrau sylweddol ar allu'r GIG i ddarparu'r lefel priodol o ofal i rai o'i chleifion mwyaf bregus," meddai llefarydd y blaid ar iechyd, Angela Burns.