Hinkley Point 'yn hwb sylweddol' i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Hinkley PointFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd o'r orsaf niwclear newydd yn Hinkley Point

Mae Ysgrifennydd y Cabinet ar yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates, wedi dweud y bydd Hinkley Point yn hwb sylweddol i gadwyn gyflenwi Cymru, ac y dylid defnyddio dur y DU ar gyfer ei adeiladu.

Wedi i'r Prif Weinidog Theresa May gyhoeddi ym mis Gorffennaf y byddai'n cynnal adolygiad i'r prosiect gwerth £18bn, cyhoeddodd Llywodraeth Prydain ddydd Iau eu bod bellach wedi rhoi sêl bendith ar y cynlluniau.

Mae Ysgrifennydd yr Economi wedi dweud bod yn rhaid manteisio ar y cyfle i gefnogi'r diwydiannau gweithgynhyrchu a pheirianneg mawr yng Nghymru, gan gynnwys y diwydiant dur.

Dywedodd Ken Skates: "Er ein bod wedi aros yn hir am y penderfyniad ynghylch Hinkley, mae'n sicr yn newyddion ardderchog i'r sector niwclear ar draws y DU ac mae'n hwb sylweddol i'r gadwyn gyflenwi.

"Gallai'r penderfyniad hefyd fod o gymorth mawr i ddiwydiant dur y DU, ac yn wir i Gymru, gan fod llawer iawn o'r diwydiant wedi'i leoli yma. Rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd yn defnyddio dur o Bort Talbot a dur gan gynhyrchwyr eraill yma yng Nghymru. Byddaf hefyd yn pwysleisio'r angen i sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd ar gyfer cadwyn gyflenwi ehangach y DU.

"Bydd cymeradwyo Hinkley hefyd yn cynyddu hyder datblygwyr allweddol fel Horizon Nuclear Power, NuGen a'u cadwyn gyflenwi Haen 1 i fuddsoddi yn y DU ac yng Nghymru. Dyma'n sicr newyddion gwych i'n heconomi."

Ymhen amser bydd y prosiect gwerth £18 biliwn yn Hinkley Point yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer hew miliwn o gartrefi ac yn creu dros 25,000 o swyddi yn y DU.

'Cyfleoedd clir'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru hefyd wedi dweud y gallai Cymru elwa'n fawr o orsaf niwclear newydd Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf.

Dywedodd Andrew RT Davies y byddai'r diwydiant dur yn elwa'n sylweddol o'r datblygiad: "Gan fod y safle yng Ngwlad yr Haf mor agos i Gymru, mae yna gyfleoedd clir am gyflogaeth a busnes, gyda chreu hyd at 26,000 o swyddi a phrentisiaethau."

"Rydym eisoes yn ymwybodol o archebion dur mawr o'r prosiect hwn, ac rydym yn gobeithio y bydd Hinkley'n chwarae rhan bwysig wrth roi hwb i economi dur Cymru.

"Dyma'r amser i'n gweithlu medrus fanteisio ar y cyfle i fod yn rhan o un o'r prosiectau adeiladu mwya mewn 70 mlynedd."

Archeb

Yn gynharach fis Medi, clywodd cwmni Express Reinforcements o Gastell-nedd mai nhw oedd yn cael eu ffafrio i ddarparu archeb o 200,000 tunnell o ddur gwerth £100m ar gyfer Hinkley Point.

Er yn croesawu'r datblygiad, dywedodd Aelod Seneddol Pontypridd, Owen Smith, sy'n ymgeisydd yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, fod yr oedi wedi gwneud drwg i enw da Prydain: "Mae'r petruso wedi arwain at ansicrwydd swyddi ac mae'n niweidiol i enw da Prydain fel gwlad i fuddsoddi ynddi."

Nid pawb sy'n cefnogi'r datblygiad. Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd cyd-arweinydd newydd y Blaid Werdd, Jonathan Bartley, y gallai prosiectau ynni andewyddadwy greu mwy o swyddi na Hinkley Point: "Mae'r swyddi yma'n bwysig, ond gallech gael pedwar neu bum gwaith cymaint o swyddi petaech chi'n buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.

"Beth sydd ei angen arnom yw strwythur ynni wedi ei ddatganoli sy'n ein gwneud ni'n fwy diogel ac yn creu mwy o swyddi, sy'n golygu y gallen ni arwain y byd o ran technolegau adnewyddadwy.

"Dydy swyddi i bobl Cymru ddim ar flaen meddwl y Llywodraeth Doriaidd yn San Steffan. Nid cyflogaeth sy'n gyrru hyn. Petai hynny'n wir, mi fydden ni'n gweld strategaeth wahanol."