Eisteddfod Bae Caerdydd: 'Cyfle rhy dda i'w golli'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi disgrifio'r penderfyniad i gynnal y brifwyl ym Mae Caerdydd yn 2018 fel cyfle rhy dda i'w golli.
Dywedodd Elfed Roberts wrth gyfarfod cyhoeddus yn y brifddinas nos Fawrth mai'r nod oedd cynnal Eisteddfod ddi-ffens, fyddai'n cynnig mynediad am ddim i ymwelwyr.
'Roedd yn teimlo'n chwithig dod a'r Eisteddfod i'r brifddinas a defnyddio adeiladau dros dro gan fod adeiladau o safon ryngwladol ar gael yno', meddai.
Fe fydd Canolfan y Mileniwm - gan gynnwys Canolfan yr Urdd a Neuadd Hoddinott - ar gael i'w defnyddio yn ystod yr ŵyl, yn ogystal â rhan o'r Senedd ac adeilad y Pierhead.
Roedd rhyw 150 o bobl yn bresennol yn y cyfarfod yn Yr Hen Lyfrgell i glywed y cynlluniau ar gyfer yr ŵyl ymhen dwy flynedd.
Fe fydd yr arian fyddai'n cael ei harbed o beidio â chael maes traddodiadol yn cael ei defnyddio i beidio codi tal mynediad, ond fe fyddai disgwyl i eisteddfodwyr dalu i fynd i'r cyngherddau nos, ac i'r seremonïau.
Mae'r gwaith o greu pwyllgor gwaith a phwyllgorau lleol yn dechrau nawr, ac fe glywodd y cyfarfod bod targed ariannol o £320,000 wedi'i gosod ar gyfer yr eisteddfod.
Cafodd yr ŵyl ei chynnal y tro diwetha' yng Nghaerdydd yn 2008 ar gaeau Pontcanna.