Y 'syrcas' yn Aberfan
- Cyhoeddwyd
Dydy hi ddim yn anghyffredin i rai trigolion adael y pentref yn gyfan gwbl pan ddaw hi'n amser i nodi carreg filltir diweddaraf trychineb Aberfan.
Mae ambell un yn ddig am yr hyn maen nhw'n ei weld fel 'ymyrraeth' y wasg, tra bod eraill yn cydnabod fod yn rhaid i'r straeon gael eu dweud.
Does dim gwadu'r dylanwad gafodd yr adroddiadau newyddion ar 21 Hydref 1966 ac yn y dyddiau, misoedd a'r blynyddoedd i ddilyn. Ond a oedd yr adroddiadau hynny'n amrywio yn dibynnu ar bwy oedd yn gohebu?
Fe soniai Jeff Edwards, un o'r rhai gafodd ei achub o'r rwbel y diwrnod hwnnw, am "unprecedented media coverage" y cyfnod.
Ychydig wythnosau ynghynt roedd Pont Hafren wedi agor gan hwyluso taith newyddiadurwyr o Lundain a thu hwnt i dde Cymru. Daeth Aberfan, a'r hyn ddigwyddodd yno, yn enwog ledled y byd.
Hyd heddiw, mae trigolion Dunblane a chymunedau cafodd eu dal yn y Tswnami yn 2004 yn cysylltu gydag unigolion o Aberfan i ofyn am gyngor. Sut mae galaru? Sut mae symud ymlaen?
Yn 1966, wrth i'r newyddion ledu am y gyflafan, daeth cyfraniadau ariannol o bedwar ban byd ac fe gafodd Cronfa Trychineb Aberfan ei greu.
Erbyn mis Ionawr 1967 roedd dros £1.5m yn y gronfa gyhoeddus. Mae'n debyg fyddai hynny heb fod yn bosib oni bai am y diddordeb mawr yn y wasg, a'r gallu oedd gan y cyfryngau i ledaenu'r neges tu hwnt i'r cymoedd.
'Saeson rhonc'
Dywedodd yr Arglwydd Elystan Morgan - a oedd yn un o'r rhai aeth i Aberfan i helpu ar ôl clywed am y drychineb ar y radio y bore hwnnw - fod yna "bobl o bob math yna, Saeson rhonc oedd â dim cysylltiad â'r lle".
Mae'r ymdeimlad yma fod 'pobl o'r tu allan' wedi dod yno ac wedi adrodd yr hanes am ardal lle doedden nhw ddim yn ei adnabod yn broblematig i'r gymuned leol.
Roedd Elwyn Evans yn un o'r 'newyddiadurwyr' lleol. Roedd o ar gyfnod o brofiad gwaith gyda phapur newydd y Merthyr Express pan ddigwyddodd y llithriad.
"Roeddwn i wedi rhewi yn y fan a'r lle," meddai. "Wnes i drio cyfweld â rhywun? Naddo. Roeddwn i wedi dychryn gymaint a doedd gen i ddim syniad beth i wneud.
"Ond yn waeth na hynny, wnes i ddim ceisio helpu neb. Wnes i ddim byd am wyth awr, dim ond sefyll yno. Nid yn unig oeddwn i wedi methu fel newyddiadurwr, ond roeddwn i wedi methu ar lefel dynol elfennol."
Oedd hi'n haws, felly, i bobl o'r tu allan - nad oedd â chysylltiad personol, uniongyrchol i'r lle - adrodd yr hanes?
Mae'n anodd amgyffred pa mor anodd oedd hi mewn gwirionedd i ohebu ar yr hyn yr oeddech yn ei weld o'ch blaen. Doedd yr un math o hyfforddiant newyddiadurol yn gallu eich paratoi am erchylltra'r diwrnod hwnnw.
Roedd hynny'n rhan o'r broblem, yn ôl yr Athro E Wyn James, a oedd yno'n helpu yng nghanol y rwbel y diwrnod hwnnw.
"Erbyn hyn dwi ddim yn siŵr ai ansensitifrwydd oedd e yn achos rhai, gyment â'u bod nhw ddim yn gwybod beth i'w holi," meddai. "Oedd y peth mor anferth. Ond roedd 'na rai ddim yn deall y sefyllfa."
Sensitif
Roedd rhieni Wyn James yn cadw siop ac yn gosod gwely a brecwast ym mhentref cyfagos Troed-y-rhiw: "Roedd llawer o newyddiadurwyr wedi dod fel haid o Lundain a digwydd bod yn aros yn ein tŷ ni.
"Wedyn ro'n i'n gweld nhw'n mynd a dod ac yn clywed trafod a'u hymateb nhw. Dwi ddim isie pardduo y rhan fwyaf ohonyn nhw ond roedd 'na rai cymeriadau brith yna.
"Rwy'n cofio un newyddiadurwraig yn dod nôl ar ôl holi rhyw gymeriad oedd wedi bod yn weithgar yn helpu ac yn y blaen ac yn dweud cymaint o effaith oedd e wedi'i gael ar y person yna. Wel fydde newyddiadurwr lleol yn gwybod bod y person yna wedi cael toriad yn ei iechyd cyn y drychineb.
"Roedd yr elfen yna o adnabyddiaeth leol gan y gohebwyr lleol, fel y rhai oedd yn gweithio 'da'r Merthyr Express."
Dywedodd hefyd fod yna "gryn wahaniaeth" yn yr ohebiaeth gyfrwng Cymraeg o gymharu â'r Saesneg.
"Os edrychwch chi'n ôl ar glipiau o'r adroddiadau, mae 'na ansensitifrwydd neu ryw banig yn perthyn i lawer o'r gohebu o'r tu allan," meddai. "Doedd llawer o'r adroddiadau ddim yn adlewyrchu'r sefyllfa.
"Ond ŷch chi'n gweld hefyd sensitifrwydd pan ŷch chi'n edrych yn ôl ar rai o'r hen glipiau newyddion, chi'n gweld sensitifrwydd holi rhywun fel Owen Edwards, er enghraifft, a Gwyn Llywelyn o gymharu â rhai o'r newyddiadurwyr Saesneg o bell.
"O'ch chi yn teimlo'u bod nhw'n trin eu pobl eu hunain mewn ffordd fwy sensitif a hefyd bod mwy o wybodaeth leol ganddyn nhw.
"Mae gen i enghreifftiau o bobl yn chwilio am sbin, yn chwilio am ryw stori, rhyw ongl ychydig yn wahanol ac yn defnyddio dullie digon twyllodrus - dweud celwydde er mwyn cael mynediad i dai pobl, ac wrth gael mynediad i dai, chwilio mewn papure personol hyd yn oed, i geisio dod o hyd i ryw lein arbennig o'n nhw yn gallu'i dilyn."
Wrth i'r newydd ledu am y drasiedi daeth sianeli teledu o bob rhan o Brydain a thu hwnt i'r pentref.
Wrth gofio yn ôl i'r cyfnod, fe ddywedodd y newyddiadurwr Gwyn Llywelyn: "Mi wnaeth o droi'n rhyw fath o 'syrcas' ddarlledu a gwelsom ni bobl leol, yn naturiol, yn adweithio.
"Roedd y math yma o ddiffyg egwyddor yn anfaddeuol ac arweiniodd at ddicter dealladwy tuag at garfan o'r cyfryngau."
Ond fel ddywedodd Gaynor Madgwick, a gollodd ei brawd a'i chwaer yn y gyflafan: "Mae'n rhaid i'r straeon yma gael eu dweud ond mae'n anodd iawn eu dweud nhw."