Carfan bêl-droed Cymru'n ymweld ag Aberfan

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, CBDC

Mae carfan bêl-droed Cymru wedi ymweld ag Aberfan, 50 mlynedd ers y drychineb laddodd 144 person yno.

Bu'r chwaraewyr yn cofio am y drychineb yng Ngardd Goffa Aberfan ddydd Llun, yn dilyn y gêm gartref yn erbyn Georgia ddydd Sul.

Fe gafodd rhannau o bentref Aberfan eu dinistrio ym mis Hydref 1966 pan lithrodd gwastraff diwydiannol i lawr y llethrau gerllaw a disgyn ar y pentref. Cafodd Ysgol Gynradd Pantglas ei llyncu gan y llaid.

Dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman, bod y profiad "yn rhoi popeth mewn persbectif".

"Mewn ffordd fechan, roedden ni eisiau dangos parch a meddwl am y drasiedi 50 mlynedd yn ôl," meddai.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Chris Coleman yn siarad ag un o drigolion Aberfan

Ffynhonnell y llun, CBDC
Ffynhonnell y llun, CBDC