Trychineb Aberfan: Sut mae gohebydd yn ymdopi?

  • Cyhoeddwyd
aberfanFfynhonnell y llun, Getty Images

Hanner canrif ers trychineb Aberfan, Aled Huw sy'n trafod sut mae gohebydd yn ymdopi gyda bod yn llygad dyst i ddigwyddiadau erchyll dros y byd.

Eistedd yn siarad oeddwn i ar lan y Fenai. Golygfa brydferth yn gefndir, a haul gwan Medi'n adlewyrchu ar y penllanw. Ond er bod y lleoliad yn unigryw, nid dyna oedd yn hawlio fy sylw.

Ro ni'n glwm yn hytrach i'r geiriau.

Holi'r cyn-ohebydd teledu, Gwyn Llywelyn oeddwn i, am drychineb Aberfan.

50 mlynedd union yn ôl, roedd e yno, yn llygaid dyst i'r golled a'r llanast.

Diymadferthedd

Er mai ond unwaith neu ddwy yr ydym wedi cyfarfod o'r blaen, roeddwn i'n gallu uniaethu a'i brofiad - o leia' rywfaint. Gallaf fentro i grynhoi ei deimladau, ei atgofion, mewn un gair.

Diymadferthedd.

Gair trwsgl sy'n crynhoi agwedd waetha' swyddogaeth gohebydd mewn sefyllfa o'r fath. Gwylio, arsylwi trychineb, heb ymyrryd, heb gynorthwyo hyd yn oed.

Dyna deimlodd Gwyn Llywelyn bum degawd yn ôl.

Disgrifiad,

Roedd Gwyn Llywelyn yn ohebydd newyddion pan ddigwyddodd trychineb Aberfan

Eglurodd pa mor anodd oedd gwylio'r cyfan o'r tu allan, ac adrodd y cyfan o safbwynt gohebydd oedd ddim yn perthyn i gymdeithas Cwm Merthyr.

"Mi ydw i'n teimlo'r euogrwydd o fod yno yn lygaid-dyst i'r cyfan." meddai.

"Dwi'n dal i deimlo hyd heddiw eich bod chi'n ymyrryd mewn rhywbeth, er nad nelo fo ddim byd â chi. Roeddwn i yn ogleddwr hefyd a doeddwn i ddim yn deall ethos bywyd y cymoedd, a'r gymdeithas glos."

Euogrwydd

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Huw wedi bod yn gohebu yn safleoedd trychinebau dros y byd, gan gynnwys yn Nice

Teimlais innau'r un euogrwydd mewn sawl man, tu hwnt i Gymru'n gan amla'.

Sefyll mewn 'ysbyty' yn Goma, Zaire adeg rhyfel cartre' Rwanda. Yng nghanol 1.5 miliwn o ffoaduriaid, roedd 'da fi fwy o adnoddau meddygol yn y sach ar fy nghefn, nag oedd gan babell elusen Medecins Sans Frontieres.

Yna yng nghysgod y Pentagon, wrth i'r adeilad anferth fudlosgi wedi ymosodiadau 11 Medi.

Dro arall, oriau'n unig ar ôl i Gorwynt Katrina daro dinas fodern New Orleans yn Louisianna ar arfordir Gwlff Mecsico, ro ni'n dyst i ddiymadferthedd o fath gwahanol.

Diffyg parodrwydd asiantaethau llywodraeth ffederal America i dorchi llewys, i ymyrryd i gynorthwyo pobl gyffredin, a phobl ddu New Orleans yn benodol. Hiliaeth fodern yr Unol Daleithiau, mewn gwlad 'ro ni'n teimlo, tan hynny, fy mod i'n ei hadnabod.

Yna ym Mharis fis Tachwedd llynedd, ac yn enwedig yn Nice yn ddiweddar, pan laddwyd plant bach wrth fwynhau tân gwyllt ar y promenâd adeg dathliadau'r Bastille.

Cydwybod cenedl

Disgrifiad,

Roedd yr Arglwydd Elystan Morgan yn AS gymharol newydd pan ddigwyddodd y trychineb

Ond nid dim ond gohebwyr deimlodd yr un rhwystredigaeth yn Aberfan. Rywsut mae Aberfan ar gydwybod ein cenedl.

Trychineb oedd yn gyfuniad erchyll o esgeulustod ac o gyd-ddigwyddiadau. Amseru, tywydd, lleoliad, daeareg, difaterwch a diymadferthedd hefyd.

Ystyriwch rhai o wleidyddion yr oes. Fe ruthrodd aelod seneddol cymharol newydd Ceredigion i Aberfan, a thorchi llewys i glirio'r mwd a'r llacs.

Mae'r atgofion yn dal yn amrwd o fyw ac emosiynol i'r Arglwydd Elystan Morgan, ac ymateb ei blaid a'i lywodraeth meddai'n "anfaddeuol".

Disgrifiad,

Dywedodd y Parchedig D Ben Rees mai'r peth anoddaf oedd mynd gyda theuluoedd i adnabod cyrff eu plant

Cyw bregethwr newydd yng Nghwm Merthyr neu Ynysowen, ger Aberfan oedd D Ben Rees ym 1966.

Mae rhannu baich teuluoedd mewn galar yn rhan o gyfrifoldebau cyson pregethwr. Ond roedd Aberfan yn wahanol meddai yntau hefyd, ac o'r herwydd cadwodd ambell atgof dan glo am hanner canrif.

Sut mae ymdopi?

Sut mae gohebydd yn ymdopi a bod yn llygad dyst i drychinebau?

Dyna i chi gwestiwn ddaw i'm cyfeiriad i'n aml. I fi, fel arfer mae cadw'r cyfan, y teimladau a'r emosiynau yn breifat yn rhan ganolog o'r darian bersonol.

Ond falle bod 'na werth weithiau mewn rhannu profiad personol, teuluol ar adegau fel hyn.

Wedi'r cyfan mae cenhedlaeth gyfan yn cofio ble roedden nhw pan ddigwyddodd Aberfan, a'r delweddau du a gwyn, y cyfrwng 'teledu newydd', wedi'u selio ar eu cof.

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o’r llun,

Mae lluniau'r cyfnod yn fythgofiadwy i'r rhai gafodd eu heffeithio

Ar y diwrnod hwnnw, roedd fy Mam yn dychwelyd adre o'r ysbyty gyda'i phlentyn cynta', fy chwaer, yn gwta chwe diwrnod oed.

Wrth sôn 'mod i'n bwrw golwg ar Aberfan hanner canrif wedyn, fe rannodd 'y nhad ei atgofion yntau.

Dwedodd iddo dreulio'r wythnos gynta' honno, yn dad newydd, yn cuddio'r papurau newydd, yn diffodd y teledu a'r radio rhag i fy mam glywed a gweld yr erchylltra a'r dioddefaint a'r colledion yn y pentre' glofaol, o leia' am ychydig bach. Roedd gwreiddiau teuluoedd fy rhieni yn ddwfn yng nghymoedd y glo.

Am mai plant diniwed oedd y rhan fwyaf a fu farw yno, mae Aberfan yn wahanol i drychinebau eraill y maes glo. Diweddglo trist i ddiwydiant fu'n frenin yma.

Fel mae'n digwydd eleni bydd 21 Hydref 2016 yn nodi ddydd Gwener ola' hanner tymor ysgolion Cymru unwaith eto. Yr un peth a ddigwyddodd ym 1966.

Mwy o reswm fyth, falle, pam y dylem fel cenedl gofio Aberfan eleni eto, a chydnabod bod y golled enbyd, yn dal i adael ei hol, ar bob un ohonom.

Hanner can mlynedd wedyn, mae'r dagrau'n dal i lifo.

Bydd modd gweld cyfweliad llawn yr Arglwydd Elystan Morgan ar raglen Newyddion9 nos Wener am 21:00.