Leanne Wood: Amser 'hawlio gwleidyddiaeth yn ôl'

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Mae'n amser "hawlio gwleidyddiaeth yn ôl" wedi misoedd lle bu iaith lled-hiliol yn dod yn fwyfwy cyffredin, yn ôl arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood.

Wrth i gynhadledd flynyddol y blaid agor fore Gwener yn Llangollen, bydd Ms Wood yn dweud bod yr amser wedi dod i gymryd safiad yn erbyn rhethreg gwrth-fewnfudo.

Yn ôl Ms Wood mae cyfle i'r blaid ennyn gwleidyddiaeth fwy positif ac agored.

Ond mae hi'n feirniadol o'r trywydd y mae trafodaeth wleidyddol wedi'i dilyn ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin.

"Bob yn dipyn, ry'n ni'n clywed iaith hiliol yn dod yn fwy ac yn fwy arferol," meddai wrth BBC Cymru.

"Ry'n ni'n gweld cynnydd mewn troseddau casineb, rhethreg wrth-fewnfudo sydd i'w weld yn rhai o'r papurau Prydeinig, ac mae hyn yn f'arswydo a dweud y gwir.

"Dw i am weld pobol yng Nghymru yn hawlio gwleidyddiaeth yn ôl. Rhaid rhoi'r cyfle i bobl y wlad hon i benderfynu'n dyfodol cenedlaethol."

'Gwleidyddiaeth hyll'

Ychwanegodd: "Fe welon ni yng nghynhadledd y Ceidwadwyr - yr iaith, yr ymgais i feddiannu tir UKIP; mae hyn yn egin i wleidyddiaeth hyll, ranedig, cenedlaetholaidd.

"Mae modd bod yn llawer mwy positif, mwy byd-eang yn ein meddylfryd, a mwy goddefgar nag y bu gwleidyddiaeth yn ddiweddar."

Ers etholiad y Cynulliad ym mis Mai mae Plaid Cymru wedi dod i gytundeb â llywodraeth leiafrifol Llafur ym Mae Caerdydd er mwyn pasio deddfwriaeth a chyllidebau.

Yr wythnos hon cytunwyd gwariant o £119m ar flaenoriaethau Plaid Cymru - gan gynnwys mwy o wario ar lywodraeth leol - yng nghyllideb 2017-18.

Ond bydd y pwyso a'r mesur yn parhau wedi i gyn-arweinydd y blaid, Dafydd Elis-Thomas benderfynu gadael y blaid wythnos yn ôl, gan gynnig beirniadaeth hallt o arweinyddiaeth Ms Wood.

Mae Ms Wood ei hun hefyd wedi codi gwrychyn ambell i aelod drwy awgrymu fod clymblaid ffurfiol â'r blaid Lafur yn parhau'n opsiwn sy'n cael ei drafod o fewn y grŵp yn y Cynulliad - sydd ddim yn syniad sydd at ddant pawb.