Gordon Anglesea yn euog o droseddau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-swyddog heddlu, Gordon Anglesea wedi ei gael yn euog o bedwar o droseddau rhyw hanesyddol yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Cafwyd Mr Anglesea yn euog o ymosod yn anweddus ar ddau fachgen yn y 1980au.
Cafwyd yn ddieuog o un cyhuddiad o ymosodiad rhyw difrifol ar fachgen.
Fe wnaeth Gordon Anglesea dderbyn £375,000 o iawndal ar ôl ennill achos enllib wedi iddo gael ei gyhuddo o gam-drin plant yn y 1990au, ond fe wnaeth y rheithgor o 11 person yn Yr Wyddgrug gytuno ddydd Gwener ei fod yn euog y tro hwn.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth ond gyda rhybudd gan y Barnwr Geraint Walters mai "dim ond un ddedfryd sy'n gwneud y tro yn yr achos hwn, a dedfryd o garchar yw hynny".
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 4 Tachwedd.
Fe wnaeth gam-drin dau fachgen yn y 1980au. Roedd y bechgyn ar y pryd yn 14-15 oed ond bellach yn eu 40au. Dywedodd un ei fod yn cael ei basio o gwmpas dynion eraill gan y pidoffeil John Allen, ac mai Gordon Anglesea oedd un o'r dynion hynny.
Cafodd y bachgen ei gludo i eiddo yn Yr Wyddgrug a'i orfodi i gyflawni gweithred rhyw ar ddyn - yn ddiweddarach dywedodd mai Gordon Anglesea oedd y dyn.
'Tystiolaeth bwysig'
Dywedodd Ed Beltrami, prif erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron:
"Fe wnaeth Gordon Anglesea gamddefnyddio ei rym a'i awdurdod er mwyn cymryd mantais o bobl ifanc a bregus iawn.
"Hoffwn ddiolch i'r dioddefwyr, goroeswyr a thystion oedd â'r dewrder i ddod ymlaen a rhoi tystiolaeth bwysig yn yr achos yma.
"Mae'r euogfarn yn erbyn Anglesea heddiw yn ganlyniad uniongyrchol o'r erlyniad yn gallu galw am dystiolaeth gan bobl oedd yno pan ddigwyddodd hyn.
"Gobeithio y bydd hwn yn gam ymlaen i'r broses adfer i'r dioddefwyr, sydd wedi gorfod byw gyda'r hyn ddigwyddodd am amser hir iawn cyn gweld y person wnaeth eu cam-drin yn dod gerbron llys."
Ymchwilio i'r heddlu
Yn y cyfamser mae Heddlu Gogledd Cymru yn destun ymchwiliad yn dilyn honiad na chafodd cwynion yn erbyn Gordon Anglesea eu dilyn.
Yn ystod yr achos fe glywodd y llys bod un o'r rhai wnaeth gŵyn yn erbyn Anglesea wedi cael ei holi yn 2002 a'i fod wedi honni mai Anglesea oedd un o'r dynion wnaeth ei gam-drin.
Daeth hynny i'r amlwg yn ystod Ymgyrch Pallial, ond ni chafodd unrhyw gamau eu cymryd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd mewn datganiad ddydd Gwener: "Gallwn gadarnhau bod Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn cwyn o ganlyniad i Ymgyrch Pallial sydd yn cael ei ymchwilio."
Yr heddlu'n ymddiheuro
Ar ran Heddlu Gogledd Cymru dywedodd yr Uwcharolygydd Gareth Evans:
"Mae'r dioddefwyr yn yr achos yma wedi aros amser maith am gyfiawnder a 'dwi'n falch iawn bod hyn wedi digwydd heddiw.
"Dydi hi ddim wedi bod yn siwrne hawdd iddyn nhw o bell ffordd, maen nhw wedi gorfod bod yn ddewr ac yn gadarn, ond dwi'n gobeithio rŵan y byddan nhw'n cael rhywfaint o gysur o weld y person a wnaeth iddyn nhw ddioddef gymaint yn cael ei ddwyn i gyfiawnder.
"Pan gafodd Ymgyrch Pallial ei lansio, ein neges ni oedd y dylai pobl sydd wedi cam-drin plant edrych dros eu hysgwydd drwy'r amser, a da' ni'n fodlon heddiw bod amser wedi dal i fyny efo Gordon Anglesea.
"Mae'n wir dweud nad oes 'na unrhyw alwedigaeth sy'n imiwn rhag unigolion fydd yn camddefnyddio eu hawdurdod er mwyn cam-drin pobl fregus.
"Mae'n drist iawn bod un o'r bobl yma yn gyn-swyddog gyda Heddlu Gogledd Cymru a dwi isio ymddiheuro ar ran yr heddlu i'r bobl y cafodd y dyn yma effaith mor drawmatig ar eu bywydau.
"Fedrwn ni ddim newid y gorffennol ond rydw i isio sicrhau pobl bod ein buddsoddiad mewn ymchwilio i gamdriniaeth rywiol a phwysigrwydd hynny yn wahanol iawn i fel oedd pethau yn y gorffennol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2016