Lansio ymgyrch Caru Eich Dillad yn Wythnos Ffasiwn Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch o'r enw Caru Eich Dillad yn cael ei lansio'r wythnos hon i annog y cyhoedd i ailgylchu neu ailddefnyddio dillad, yn lle'u taflu gyda gwastraff y tŷ.
Bwriad yr ymgyrch yw lleihau gwastraff dillad ar draws y DU drwy helpu prynwyr i newid y ffordd maen nhw'n prynu, defnyddio a chael gwared â'u dillad.
Mae gan Caru Eich Dillad bartneriaeth gydag Wythnos Ffasiwn Caerdydd, sy'n cychwyn ddydd Llun.
Mae Caru Eich Dillad am weld trigolion Caerdydd yn cyfrannu dillad nad ydyn nhw eu heisiau, fel rhan o ymdrech i gasglu pum tunnell o ddillad ar draws y brifddinas.
Cafodd digwyddiad tebyg ei gynnal ym Mangor ym mis Mawrth ble casglodd y ddinas dros ddwy dunnell o ddillad, sef dwbl y targed gwreiddiol.
Yn ôl yr elusen, mae 350,000 tunnell o ddillad yn mynd i'r gladdfa pob blwyddyn.
Yn ystod Sioe Ffasiwn Caerdydd, bydd dylunwyr ar draws Cymru'n cael cyfle i ddangos eu gwaith i gynulleidfa'r DU.
Mae'r cyn-fodel sydd bellach yn ddylunydd, Sophie Moulds - a enillodd Miss Cymru yn 2012 - yn dangos ei busnes ffasiwn "Sophie Elizabeth London" yn y pentref dylunio.
Enw mawr arall a fydd yn cyfrannu at y digwyddiad yw Kai Steward o Jaxxon House yn Sir Benfro. Fe enillodd wobr ASOS am ddylunydd ifanc y flwyddyn yn 2014.
O fewn y pentref ffasiwn, bydd perfformiadau dawns, arddangosiadau barbwr, bandiau byw, ac amrywiaeth o weithdai ffasiwn.