Cymro'r comics

  • Cyhoeddwyd
Y comic oedd yn fan cychwyn ar ddiddordeb Daf

Mae comics Americanaidd Marvel a DC Comics wedi cael cynulleidfa ehangach yn ddiweddar gyda Hollywood a nawr, cwmnïau teledu megis Netflix yn llwyddo i droi'r ffuglen wyddonol liwgar yn rhaglenni a ffilmiau llwyddiannus.

Roedd Dafydd Wyn, o Aberystwyth yn wreiddiol, ymhlith y sgwennwyr oedd yn gyfrifol am rai o straeon comic mwyaf llwyddiannus y 90au. Bu'n sôn wrth Cymru Fyw sut dyfodd y diddordeb a sut y daeth i wireddu ei freuddwyd:

Y Flwyddyn: 1972

Y lleoliad: W H Smiths, Llandudno

Y digwyddiad: Haydn Wyn Davies yn prynu Mighty World of Marvel Rhif 1 i'w fab Dafydd.

Flynyddoedd yn ddiweddarach rwy' dal yn casglu ac, erbyn hyn, wedi ysgrifennu comics Americanaidd.

Yn wreiddiol y gwaith celf oedd yr ysbrydoliaeth. Mi wnes i gyflwyno comic cyfan fel cywaith ar gyfer lefel 'A' celf, ond pan es i 'mlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio Saesneg a'r Clasuron newidiodd y pwyslais.

Ffynhonnell y llun, IMAGE

Yn y cyfnod yma mi wnes i ddarganfod gwaith Joseph Campbell, awdur oedd yn astudio ffuglen arwrol y Groegiaid a'r Rhufeiniaid a'i ddefnyddio i strwythuro ffuglen gyfoes (roedd Campbell yn ddylanwad mawr ar un o fy arwyr eraill, George Lucas, creawdwr Star Wars. Es i weld y ffilm wreiddiol 11 o weithiau yn sinema Y Commodore, Aberystwyth yn '77).

Daeth fy llwyddiant cyntaf fel awdur comics yng nghanol y 90au pan wnes i anfon sgript at gwmni IMAGE yng Nghaliffornia.

Roedd y cwmni newydd gael ei ffurfio gan rhai o arlunwyr enwocaf y diwydiant ac wedi hysbysebu am dalent newydd.

Yng nghanol nos daeth galwad ffôn yn dweud bod y cwmni am gyhoeddi'r stori. Yn anffodus, oherwydd rhyw ddyfais newydd o'r enw y rhyngrwyd, 'doedd dim angen i mi fynd i fyw i America!

Disgrifiad o’r llun,

Un o fyrddau stori gwreiddiol y Wildcats Trilogy sydd yn awr ar wal Dafydd

Roedd y Wildcats Trilogy yn llwyddiant anferth. Cyrhaeddodd y rhifyn cyntaf rhif dau yn siartiau gwerthiant y byd. Dros y blynyddoedd nesaf daeth mwy o lwyddiant efo Image ac yna efo DC Comics pan gafodd un o'm storiâu Batman ei chyhoeddi yng nghomic Batman Chronicles.

Ond symudodd y pwyslais unwaith eto at fy ngwaith pob dydd, sef cyfarwyddo a chynhyrchu rhaglenni teledu. Ond pan ddaeth y cyfle i ail ddychmygu un o arwyr enwocaf Cymru, Gari Tryfan, ar gyfer ffilm i S4C mi welais gyfle i ailgydio yn yr ysgrifennu (gan gydweithio efo Geraint Lewis ar stori'r ffilm).

Nawr efo ail ffilm Gari Tryfan ar y gweill y gobaith yw symud nôl i'r cariad cyntaf... comics.