Nifer ymosodiadau staff ambiwlans ar ei uchaf ers 6 blynedd
- Cyhoeddwyd
Roedd nifer yr ymosodiadau ar staff ambiwlans ar ei uchaf ers chwe blynedd y llynedd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Y llynedd cafodd 273 o ymosodiadau eu cofnodi, o'i gymharu â 239 ar gyfer 2014-15, cynnydd o 14%.
Ffigwr y llynedd oedd y nifer uchaf ers 2009.
Dywedodd Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Tracy Myhill, ei bod yn hynod siomedig i weld cynnydd yn nifer yr ymosodiadau.
"Fe ddylai staff fod yn gallu gwneud eu gwaith heb fod ofn trais, na chamymddwyn," meddai.
"Maen nhw yma i ymateb ar frys i anghenion meddygol y gymuned ac nid oes angen unrhyw oedi oherwydd ymosodiadau diangen mewn amgylchiadau sydd eisoes yn anodd."
Mae'r ymosodiadau ar staff yn cynnwys rhai geiriol yn ogystal â rhai corfforol.
Dywedodd Darron Dupre o undeb UNSAIN: "Mae o'n beth ofnadwy i feddwl mai fel hyn rydym yn dangos gwerthfawrogiad o staff gwasanaethau brys, sef bod ymosodiadau o'r fath wedi cynyddu 50% yng Nghymru ers 2009/10.
"Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos nad yw'r rhain yn ymosodiadau gan gleifion sydd dan ddylanwad, neu sydd ddim â'r gallu meddyliol i reoli na deall eu hymddygiad yn unig.
"Mae ymosodiadau gan deuluoedd cleifion a'u ffrindiau."