Rhys a Dr Strange
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc o Gwm Gwendraeth wedi gweithio ar y ffilm fwya' poblogaidd sydd yn y sinemâu yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, sef Doctor Strange.
Gyda'r gwaith ar y ffilm honno wedi dod i ben, mae Rhys Ifan erbyn hyn yn gweithio fel Cyfarwyddwr Celf ar ffilm ddiweddara' Disney, sef addasiad o'r bale The Nutcracker fydd yn cael ei rhyddhau adeg Nadolig 2017. Yn ystod ei awr ginio yn stiwdio Pinewood yn Llundain, bu'n siarad â Cymru Fyw am ei waith yn y byd ffilm.
Mae'r ffilm ffantasi Doctor Strange yn seiliedig ar y cymeriad o gomics Marvel, ac yn cael ei chwarae gan yr actor Benedict Cumberbatch. Yr wythnos hon, mae hi ar frig siart y swyddfa docynnau ym Mhrydain, am y gwerthiant gorau yn ystod y penwythnos cyntaf, ac wedi cael ymateb da gan yr adolygwyr.
Felly, beth oedd rôl Rhys Ifan yn y ffilm a sut y mae e wedi gadael ei farc ar y sgrin?
"R'on i'n Is-gyfarwyddwr Celf ar Doctor Strange ac yn gyfrifol am ddwy set yn benodol," meddai. "O'dd y sets o'n i'n gweithio arnyn nhw yn rhai y Kamar-Taj yn Nepal.
"Gweithies i ar y Narthex, hwnna oedd y porth o'r Kamar-Taj, lle oedd un drws yn mynd i Efrog Newydd, un i Hong Kong ac un i Lundain. Hefyd roeddwn i'n gyfrifol am ystafell Doctor Strange yn y Kamar-Taj.
"I ddechrau rydw i a'r tîm yn darllen y sgript a wedyn yn dylunio'r setiau. Byddwn ni'n tynnu llun gyda phensil a phapur ar drawing board. Dyna dwi'n mwynhau neud, a dyna lle mae'r cyfan yn dechre.
"Mae peth o'r gwaith yn cael ei wneud ar gyfrifiadur, er enghraifft i greu modelau 3D, ond fi'n credu bod defnyddio papur a phensil yn rhoi gwell dealltwriaeth i rywun o'r syniad. Mae buddiannau i'r cyfrifiadur wrth gwrs, ond dyddie 'ma mae'n bwysig bod pawb yn gallu neud bach o bopeth, ond heb golli'r sgiliau gwreiddiol, sylfaenol."
Mae Rhys, sy'n dad i Idris, sy'n 10 mis oed, wedi gwneud enw iddo'i hun ers cychwyn ar ei swydd gynta' ar y ffilm Bourne Ultimatum yn 2007. Wedi gweithio ar ffilmiau Zero Dark Thirty, Thor: The Dark World, a The Martian i enwi ychydig, bellach mae'n Gyfarwyddwr Celf, gyda thîm yn gweithio gydag ef.
'Byd ffilmiau ddim ar y radar'
Ond er gwaethaf ei waith yn dylunio setiau y byd ffantasïol ar ffilmiau sy'n seiliedig ar gymeriadau Marvel ac Avengers, mae'n cyfaddef nad oedd yn foi comics pan oedd yn iau, na chwaith yn gweld ei ddyfodol yn y byd ffilm.
"O'n i byth mewn i comics rili, oni bai am hen lyfre Victor oedd gan Dad pan oedd e'n fach. Do'n i ddim mewn i super heroes o gwbwl chwaith, ac yn tyfu lan mewn ardal fel Cwm Gwendraeth doedd y byd ffilmiau ddim ar fy radar i o gwbl.
"D'on i ddim yn sylweddoli bod y ffilmiau 'ma yn cael eu 'neud ym Mhrydain, heb sôn bod siawns gyda fi i weithio arnyn nhw.
"Ar ôl graddio o Gasnewydd a gwneud fy nghwrs Masters yn Central St Martins yn Llundain, ro'n i'n runner yn Soho am gyfnod, ond sylweddolais i nad o'n i eisiau bod yn gynhyrchydd neu'n gyfarwyddwr," meddai Rhys. "Felly oedd yn rhaid i fi ail ystyried.
"Ffrind i fi awgrymodd fy mod i'n edrych mewn i weithio mewn Adran Gelf ar ffilm. Oedd hi'n gyfnod hir ac anodd wedyn o wneud galwadau ffôn i stiwdios ffilm i chwilio am waith.
"Mae'n fyd cystadleuol. Fyddai'n cwpla'r job yma mewn mis a sai'n gwybod pryd ddaw'r jobyn nesa'. Dyna'r peth sy'n anodd am weithio yn y diwydiant yma, pan ti mewn gwaith mae'r oriau'n hir ac mae'r gwaith yn drwm. Ond wedyn alli di fod yn chwilio am waith am chwe mis neu fwy.
"Ond mae'r gwaith yn werth chweil iawn hefyd. Ni'n dechre'r broses yn sgetsio rhywbeth ar bapur, yna'n ei ddylunio fe ac wedyn mae'n cael ei adeiladu ar scale anferth, ac mae gweld y ffilm orffenedig ar y sgrin yn brofiad grêt."
'Ddim yn glamorous'
Ond mae'n fwy tebygol y gwelwch chi Rhys yn gweithio mewn caban oer ar leoliad mewn coedwig fwdlyd nag yn cymysgu gyda'r sêr ar y carped coch, ac mae'r camddealldwriaeth hynny o'i waith yn y byd ffilm yn cael ei wneud yn aml.
"Dydy e ddim yn glamorous! Yn aml r'yn ni'n gweithio mas o container yn rhywle, falle'n cario coed trwy'r mwd! Dydyn ni ddim yn mynd i'r premieres a chymysgu gyda'r actorion, heblaw i shiglo llaw a dweud 'shw'mae?' Mae'r rhan fwya' o'n gwaith ni yn y stiwdios yn Llundain.
"Ni'n mynd i screening o'r ffilm gorffenedig gyda'r cast a'r criw, fel arfer mae'n cael ei gynnal yn gynnar ar fore Sul yn Leicester Square. Sdim carped coch ond mae'n brofiad gwych i weld ein henw ar y credits ar y diwedd.
"Pan fi'n gwylio'r ffilm am y tro cynta' dwi jyst yn craffu ar y manylion bach, ar gorneli'r sgrin i edrych am unrhyw gamgymeriadau!
"Mae'n neis wedyn mynd sawl wythnos yn ddiweddarach i wylio gyda llygaid ffresh ac i joio'r ffilm am beth ydy hi."