Carchar am 12 mlynedd i Gordon Anglesea

  • Cyhoeddwyd
Gordon Anglesea
Disgrifiad o’r llun,

Gordon Anglesea (yn y canol gyda gwallt gwyn) yn cyrraedd y llys ddydd Gwener

Mae cyn swyddog heddlu a gafwyd yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant wedi ei ddedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar.

Cafwyd Gordon Anglesea, 79 o Hen Golwyn, yn euog o ymosod yn anweddus ar ddau fachgen yn ystod y 1980au.

Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng 1982 ac 1987, pan oedd y ddau fachgen yn 14 neu 15 oed.

Roedd Anglesea, a oedd yn gyn uwcharolygydd yn ardal Wrecsam, wedi gwadu'r honiadau yn ei erbyn.

Roedd 'na fonllefau a chymeradwyaeth yn yr oriel gyhoeddus wrth i'r Barnwr Geraint Walters garcharu'r cyn-blismon.

Ar ddechrau'r gwrandawiad fe wnaeth yr amddiffyniad gais am fechnïaeth i Anglesea er mwyn paratoi apêl yn erbyn yr euogfarn, ond gwrthod hynny wnaeth y Barnwr Geraint Walters.

"Mae'r rheithgor wedi credu dau dyst allweddol, a does dim yn yr achos yma sy'n fy arwain i gredu nad yw'r euogfarn yn ddiogel," meddai.

Ffynhonnell y llun, Daily Post Wales
Disgrifiad o’r llun,

Gordon Anglesea yn ei ddyddiau gyda'r heddlu

Rhoddodd un o'r dioddefwyr ddatganiad i'r llys gan ddweud: "O'r holl bobl wnaeth fy nghamdrin Anglesea oedd y gwaethaf. Fo oedd yr un yr oeddwn yn ei ofni fwya'."

Ychwanegodd ei fod yn dal yn teimlo ofn ohono fel oedolyn.

'Rhedeg y cyfan'

Gofynnodd Tania Griffiths ar ran y diffynnydd i'r barnwr "fod mor ddyngarol â phosib gan y bydd carchar yn anodd iawn i'r dyn yma".

Wrth gyhoeddi'r ddedfryd dywedodd y barnwr: "Chi oedd y dyn oedd yn rhedeg y cyfan ac fe fyddai hynny wedi bod yn amlwg i bawb.

"Byddai unrhyw fachgen oedd angen ei gosbi yn cael ei yrru atoch chi.

"Doedd gan y bobl ifanc yna neb i droi atyn nhw. Roedden nhw ar eu mwyaf bregus.

"Roedd eich ymddygiad wrth galon bodolaeth ddiflas a greodd y ddau ddyn yma."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gordon Anglesea yn y ddalfa

Prif gwnstabl

Wedi'r ddedfryd fe ddaeth datganiad gan Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Mark Polin: "Pan ddechreuodd Ymgyrch Pallial fe ddywedais y byddai pawb wnaeth gamdrin plant yn edrych dros eu hysgwydd.

"Mae amser wedi dal fyny gyda Gordon Anglesea ac mae'r ddedfryd heddiw o 12 mlynedd yn adlewyrchu'r camddefnydd difrifol o'i awdurdod a'r ymddiriedaeth a ddefnyddiodd i droseddu yn erbyn dioddefwyr bregus a ddylai fod wedi bod yn ddiogel yn ei bresenoldeb.

"Mae'n wir i ddweud nad oes unrhyw swydd yn rhydd o unigolion a fydd yn ecsploetio'u safle o awdurdod ac ymddiriedaeth i gamdrin dioddefwyr bregus, ond mae pobl yn disgwyl, ac yn haeddu gwell gan yr heddlu.

"Rwy'n drist iawn bod cyn-swyddog gyda Heddlu'r Gogledd yn un o'r unigolion yma, a hoffwn unwaith eto ymddiheuro ar ran y llu i'r rhai a gafodd eu bywydau wedi newid mewn modd trawmatig ganddo."

CPS

Daeth datganiad hefyd gan Ed Beltrami, prif erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru.

"Mae'r ddedfryd heddiw yn gweld Gordon Anglesea yn cael cyfiawnder am y troseddau erchyll a gyflawnodd dros 20 mlynedd yn ôl," meddai.

"Mae diwedd yr achos yn garreg filltir bwysig i ddioddefwyr Anglesea, ac i'r timau fu'n ymchwilio ar erlyn yr achos. Mae dedfrydu Anglesea yn dysteb i ddewrder y rhai ddaeth i adrodd am yr hyn a welon nhw neu a brofon nhw.

"Rydym yn gobeithio bod diweddglo'r achos yn dangos ymrwymiad y CPS, Ymgyrch Pallial a Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau bod y rhai sydd wedi aflonyddu ar yr ifanc a'r bregus yn mynd i orfod cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd mewn llys troseddol."

Bydd cais yr erlyniad am £150,000 o gostau yn cael ei ystyried ym mis Ionawr.

Fe fydd Anglesea yn apelio yn erbyn y dyfarniad a ddaeth ym mis Hydref.