Ynys Enlli yn y gaeaf
- Cyhoeddwyd

Enfys yn ceisio gwthio cawodydd cenllysg mis Tachwedd i ffwrdd
Dyma rai o luniau Steve Porter o'r gaeaf yn cau mewn am Ynys Enlli ym mhen-draw arfordir Pen Llŷn.
Mae Steve a'i wraig Joanna wedi bod yn byw ar Ynys Enlli ers 2007 ar ôl ymateb i hysbyseb yn chwilio am deulu i ddod i fyw ar yr ynys a rhedeg y fferm.
Tan yn ddiweddar roedd eu plant Rachel a Ben hefyd yn byw yno efo nhw ac yn cael eu haddysg gartref. Mae Joanna hefyd yn gweithio i'r RSPB ar yr ynys a Steve yn mwynhau cadw cofnod o'r newid yn y tymhorau gyda'i gamera.

Mae'n bwysig i'r anifeiliaid gael digon o fwyd i gadw'n gynnes mewn tywydd gaeafol
"Mae bywyd ar yr ynys yn dymhorol iawn," meddai Steve. "Dydyn ni wedi ein hynysu yn ystod yr haf pan rydyn ni'n rhedeg caffi bach prysur a shop grefftau i'r ymwelwyr dydd a'r bobl sy'n treulio mwy o amser ar yr ynys drwy rentu'r tai.
"Ar ddiwrnod braf o haf fe allai ryw 100 o bobl fod yn crwydro ac archwilio'r darn bach anghysbell yma o dir ond wrth imi ysgrifennu'r ychydig eiriau hyn dim ond tri ohonom ni sydd yma dros y gaeaf."

Cawod drom yn syrthio ar yr ynys

Rachel, merch Steve, yn edrych draw am y tir mawr o ben mynydd Enlli
"Rydw i wedi treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd gweithio yn dysgu gweithgareddau awyr agored ac yn fy arddegau ro'n i'n helpu fy nhad ar ei fferm fynydd ddefaid yng Nghonwy.
"Roedd dipyn o waith dysgu felly i fod yn gyfrifol am fferm 440 erw yr ynys sy'n cadw 26 o wartheg duon Cymreig a 300 o ddefaid mynydd Cymreig."

Daeargwn Steve yn nannedd y gwynt yn ystod storm ganol Tachwedd

Gwynt mawr mis Tachwedd yn hyrddio'r tonau tymhestlog ar y creigiau

Neb ar y Swnt heddiw

Gwylio'r niwl yn dod i mewn

Mae Steve yn tynnu rhai lluniau o'i baragleidar sydd hefyd yn handi i gadw golwg ar yr anifeiliaid!

Y defaid yn cael porfeydd newydd o gwmpas y goleudy

Ychydig iawn o eira sy'n syrthio ar Enlli ac nid yw'n para mwy na ryw hanner awr cyn meiriol meddai Steve - ond mae na ddigon o law i droi'r tir yn gaeau mwd!

Yn ystod y stormydd achosodd ddifrod yng Ngheredigion fis Tachwedd cofnododd Steve wynt o 85 mya ar Enlli
"Ar wahân i'r ffermio, yr her fawr arall inni fel teulu pan symudon ni i Enlli oedd addysg i Rachel a Ben, ein plant, oedd yn 13 ac 11 ar y pryd. Aeth y cyfrifoldeb am hyn i Joanna, fy ngwraig, gan fy mod i'n brysur ar y fferm.
"Daeth pethau ychydig yn haws inni yn ystod ein trydydd blwyddyn pan gawson ni'r we o'r diwedd.
"Dwi'n gobeithio fod y plant wedi cael budd o'r profiad o fagwraeth mor wahanol. Maen nhw i'w gweld wedi troi allan yn iawn ac mae'r ddau wedi eu derbyn i brifysgolion ar y tir mawr.
"Rydw i'n mwynhau ffotograffiaeth ac yn ffodus iawn i fyw ar ynys brydferth mewn gwlad brydferth. Y cyfan sydd raid imi ei wneud ydy cofio cario'r camera efo mi a chymryd gofal i chwilio am yr eiliadau o arbennig."
Mae mae mwy o luniau Steve ar ei dudalen Facebook, dolen allanol.