Galw am ganolfan gyffuriau i ddefnyddwyr yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
CYFFURIAUFfynhonnell y llun, FOTOMAXIMUM/THINKSTOCK

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru'n galw am sefydlu canolfan arbennig yn Wrecsam lle y gallai pobl sy'n gaeth i gyffuriau gael chwistrelliadau diogel a glân.

Roedd Arfon Jones yn ymateb i bryderon trigolion yn ardal Rhosddu, sy'n poeni y gallai nodwyddau hypodermig sy'n cael eu gadael yn yr ardal fod yn beryglus.

Dywedodd Mr Jones, cyn arolygydd gyda'r heddlu, yr hoffai weld cyfleuster tebyg i'r fix room sydd wedi ei agor yn Glasgow yn ddiweddar, lle mae pobl sy'n gaeth i gyffuriau yn gallu derbyn chwystrelliadau dan oruchwyliaeth feddygol.

Nod y cynllun yw ceisio atal rhagor o farwolaethau'n ymwneud â chyffuriau, yn ogystal ag atal lledu heintiau ymhlith defnyddwyr a gostwng nifer yr offer, fel nodwyddau, sy'n cael eu gadael mewn mannau cyhoeddus.

Mae cynlluniau tebyg mewn 10 gwlad arall, gan gynnwys Awstralia, Yr Almaen, Ffrainc, Yr Iseldiroedd a'r Swistir.

Ffynhonnell y llun, EYEIMAGERY

Mae problemau cyffuriau, digartrefedd, ac ymddygiad gwrth gymdeithasol yn achos pryder yn Rhosddu.

Dywedodd Mr Jones: "Ar hyn o bryd, y cyfan 'dach chi'n gael yw'r awdurdodau'n trin symptomau camddefnydd sylweddau a chaethiwed i gyffuriau yn hytrach na'r achosion y tu ôl iddyn nhw.

"Dylai caethiwed i gyffuriau gael ei drin fel mater o iechyd cyhoeddus, yn hytrach na mater troseddol.

"Dwi'n nabod dwsinnau o bobl sydd wedi mynd i'r carchar.

"Maen nhw'n gaeth pan fyddan nhw'n mynd i fewn, ac maen nhw'n gaeth pan ddôn nhw allan.

"Y broblem sydd gennyn ni yn Wrecsam yw fod y gwasanaethau i gyd wedi eu canoli ar ymylon yr ardal, felly mae'r problemau'n codi o bobl yn chwilio am gymorth a gwasanaethau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae camddefnydd cyffuriau, digartrefedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bryder yn ardal Rhosddu

Dywedodd Mr Jones ei fod yn cydymdeimlo'n llwyr gyda phobl yn Rhosddu: "Yn amlwg, un o'r materion i bobl yn Rhosddu, a dwi'n deall eu pryderon, yw nifer y nodwyddau sy'n cael eu gadael ym mhobman.

"Petai gennyn ni ganolfan gyflenwi, lle gallai pobl fynd i gael chwistrelliad diogel neu gymryd cyffuriau, fe fyddai'r broblem honno'n diflannu dros nos.

"Y cyfan sydd ei angen yw i'r holl bartneriaid - nid dim ond fi - i feddwl a chynllunio yn arloesol o flaen llaw.

"Fe ddylen ni gael ein harwain gan y bwrdd iechyd, achos y bwrdd iechyd sy'n dosbarthu chwistrellwyr sydd byth yn cael eu dychwelyd, ac felly maen nhw'n cael eu taflu fel sbwriel ar y stryd.

"Gallaf weld dwy ochr y ddadl, a dwi'n siwr, petai'r awdurdodau ychydig yn fwy hyblyg tuag at bobl sy'n achosi'r problemau hyn, dwi'n siwr nad yw'r mwyafrif llethol ohonyn nhw'n dymuno gwneud unrhyw ddrwg i unrhyw un.

"Yr hyn nad ydyn ni'n sylweddoli yw fod llawer ohonyn nhw'n gaeth i sylweddau oherwydd rhyw drawma yn eu bywydau, boed hynny achos iddyn nhw gael eu cam-drin pan yn blant, neu am eu bod yn gyn-filwyr sy'n dioddef o drawma ar ôl y maes y gad."