Galw am adolygu 'anghyfiawnder' cynllun pensiynau glowyr
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i daclo "anghyfiawnder sy'n parhau" dros gynllun pensiynau i lowyr.
Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth yn cymryd 50% o'r arian dros ben o Gronfa Bensiwn y Glowyr (MPS) fel rhan o'u gwarant.
Yn ôl y llywodraeth mae'r pensiynau 30% yn uwch nag y bydden nhw petai'r gwarant hwnnw ddim yn bodoli.
Ond mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr wedi galw am adolygu'r trefniant hwnnw, gan ddweud y dylai mwy o'r arian dros ben fynd i ymddiriedolwyr.
Rhannu'n 'decach'
Ers 1994 mae Llywodraeth y DU wedi derbyn £3.35bn o'r cynllun.
Mae disgwyl i Steffan Lewis, AC Plaid Cymru dros Dde Ddwyrain Cymru, arwain trafodaeth yn y Cynulliad ddydd Mercher i drafod newid y drefn.
"Mae'n bryd cael adolygiad fel bod y gweddill o'r gronfa yn cael ei rannu'n decach rhwng y llywodraeth a'r glowyr," meddai.
"Does neb yn dadlau nad oes gan y llywodraeth hawl i warchodaeth ariannol fel gwarantwr y gronfa bensiwn, ond mae'r sefyllfa bresennol yn ormodol ac nid oes modd ei chyfiawnhau."
Ar ôl i'r diwydiant glo gael ei breifateiddio yn 1994 fe gytunodd y llywodraeth i warantu na fyddai cyfanswm y pensiwn yn gostwng, ac y byddai unrhyw arian dros ben yn cael ei rannu'n hafal rhwng y llywodraeth ac aelodau'r cynllun.
Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol de Cymru i Undeb Cenedlaethol y Glowyr, Wayne Thomas, mae tua 25,000 o lowyr yn derbyn y pensiwn yng Nghymru.
"Dyw'r bobl rydyn ni'n delio â nhw yn y cymunedau glofaol ddim eisiau rhoddion. Dydyn nhw ddim eisiau dibynnu ar y wladwriaeth," meddai.
"Ond rydw i'n delio gyda llawer sydd yn dibynnu ar y wladwriaeth gan fod eu pensiynau'n isel. Petai rhywfaint o'r arian dros ben yn mynd i'r ymddiriedolwyr fe fyddai modd i ni roi hwb i'w pensiynau."
30% yn uwch
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol: "Mae'r llywodraeth yn parhau i warantu y bydd pensiynau'n cael eu talu.
"Mae aelodau wedi derbyn pensiynau sydd 30% yn uwch nag y bydden nhw wedi bod heb y gwarant, ac fe fydd y rhain yn parhau i gynyddu gyda chwyddiant."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn cefnogi galwad Undeb Cenedlaethol y Glowyr am adolygiad.
"Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i wneud ei safbwynt yn glir ar y gronfa wrth gefn sydd wedi cael ei greu o'r arian dros ben, gafodd ei chreu yn rhannol er mwyn cefnogi'r diwydiant mwyngloddio dwfn sydd dal ar ôl.
"Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi galwad yr NUM i hynny gael ei roi 'nôl yn y cynllun, er lles glowyr sydd wedi ymddeol a gweithwyr yn y diwydiant glo."