Angen i fentrau iaith 'addasu' i gynyddu siaradwyr
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r fenter iaith gyntaf ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed, mae academydd iaith blaenllaw wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen i'r mentrau addasu er mwyn cael unrhyw effaith gadarnhaol ar yr iaith yn y dyfodol.
Fe wnaeth yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost ei sylwadau wrth i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes, Alun Davies baratoi i siarad mewn dathliad o waith y mentrau iaith ym Mhrifysgol Aberystwyth brynhawn dydd Iau.
Sefydlwyd Menter Iaith Cwm Gwendraeth yn 1991, ac erbyn hyn mae 23 o Fentrau Iaith yng Nghymru, gyda'r sefydliad ymbarél Mentrau Iaith Cymru yn cefnogi eu gwaith ar lefel genedlaethol i gynyddu defnydd yr iaith yn y gymuned.
Dywedodd cyn-brif weithredwraig Menter Iaith Cwm Gwendraeth, Deris Williams: "Sefydlwyd Menter Cwm Gwendraeth 25 mlynedd yn ôl yn dilyn llwyddiant Eisteddfod yr Urdd yn yr ardal,
"Aeth criw o bobl, yn llawn egni, at y Swyddfa Gymreig yn dweud, mae gyda ni ddarn o dir yng Nghwm Gwendraeth, lle mae'r Gymraeg yn fyw ac yn egnïol, a'u bod nhw am nawdd i sefydlu Menter Iaith.
"Ro'dd angen Menter Iaith oherwydd bod nhw wedi gweld brwdfrydedd yn arwain at Eisteddfod yr Urdd ac, wrth gwrs, mae'n rhyfedd iawn, gwaith glo ola'n cau yng Nghwm Gwendraeth yn '91, a'r Fenter Iaith yn cael ei sefydlu, a hynny er mwyn cynnal y Gymraeg.
"Mi oedd y Gymraeg yn naturiol yn y pyllau glo. Pan oedd pobol yn mewnfudo i'r ardal i weithio oedd y Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd."
Ond yn ôl yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost o Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, mae angen i'r Mentrau Iaith newid er mwyn iddyn nhw helpu cynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Mae o'r farn bod y mentrau wedi gweithio'n dda wrth ddarparu cyfleoedd i bobl siarad Cymraeg, ond bod angen iddyn nhw ganolbwyntio mwy ar newid ymddygiad fel eu bod yn denu mwy o bobl i siarad Cymraeg.
"Un peth yw darparu cyfleoedd, peth arall yw sicrhau bod pobol yn cymryd mantais o'r cyfleoedd hynny," meddai.
"Os unrhyw beth, dwi'n credu bod y Mentrau Iaith a mudiadau eraill wedi cyrraedd rhyw bwynt yn eu datblygiad erbyn hyn lle maen nhw'n gorfod meddwl am wneud mwy na hwyluso darparu cyfleoedd.
"Hynny yw, maen nhw'n gorfod meddwl am sut i sicrhau bod mwy o ddefnydd, mwy o gymryd mantais o'r cyfleoedd yna - sut wyt ti'n newid ymddygiad siaradwyr Cymraeg yn y bôn."
Mae Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, Owain Gruffydd yn cydnabod bod angen i'r mentrau newid ac addasu er mwyn iddyn nhw fod o bwys yn y dyfodol.
"Mae'n rhaid newid gyda'r amser, ac mae'n rhaid hefyd ymateb i anghenion cymunedol lleol, ac mae'r anghenion hynny'n amrywio ym mhob rhan o Gymru.
"Mae'n rhaid i ni gofio bod y mentrau'n gweithio, bod pethau y'n ni'n neud yn llwyddiannus mae ishe cadw'r rheiny, ond beth sydd angen i ni falle ei wneud yw arloesi ychydig mwy, cynnig cyfleoedd newydd, mynd i'r afael â meysydd newydd i weithredu ynddyn nhw."
Yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes Alun Davies, mae'n hynod bwysig buddsoddi yn y mentrau iaith:
"Os ydyn am gyrraedd 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 fe fydd yn rhaid i ni newid ein ffyrdd fel llywodraeth ac fe fydd yn rhaid i sefydliadau Cymru newid hefyd.
"Mae'n bwysig ein bod yn ehangu nifer y digwyddiadau sy'n defnyddio'r Gymraeg - boed fel prif iaith neu ail iaith.
"Yn sicr, mae'n rhaid buddsoddi mewn gweithgareddau a phobl sy'n hyrwyddo'r Gymraeg."