Gordon Anglesea yn apelio yn erbyn ei euogfarn

  • Cyhoeddwyd
Gordon AngleseaFfynhonnell y llun, Andrew Price

Mae cyn-uwcharolygydd heddlu gafodd ei garcharu am gam-drin rhyw yn erbyn dau fachgen wedi apelio yn erbyn ei euogfarn.

Cafodd Gordon Anglesea, 79 oed o Hen Golwyn, ei ddedfrydu i 12 mlynedd dan glo ar ôl cael ei ganfod yn euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug fis diwethaf.

Bydd yr apêl yn erbyn ei euogfarn nawr yn cael ei yrru i'r Llys Apêl.

Ond mae Ffederasiwn yr Heddlu, wnaeth dalu ei gostau cyfreithiol ar gyfer ei achos, wedi cadarnhau na fydden nhw'n ariannu'r apêl.

Yn y cyfamser, mae llefarydd o'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i faterion ariannol Anglesea o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.