'Blwyddyn orau fy mywyd yn byw a gweithio ar Enlli'
- Cyhoeddwyd
"Hon ydi'r flwyddyn orau fy mywyd", dyna sut ddisgrifiodd Sian Stacey o Lansteffan ei blwyddyn gyntaf o fyw a gweithio fel rheolwraig Ynys Enlli.
Dros gyfnod y Nadolig llynedd fe symudodd Sian a'i chariad Mark i fyw ar Ynys Enlli heb wybod yn iawn beth i ddisgwyl.
Wrth ffarwelio gyda'i theulu ar y tir mawr roedd Sian yn teimlo'n gyffrous, ond i ferch oedd "wrth ei bodd yn cymdeithasu" roedd hi'n gwybod fod symud yno am newid ei bywyd yn llwyr.
Roedd Sian a Mark fod i symud i fyw ar yr Ynys ym mis Tachwedd, ond oherwydd y tywydd garw roedd hi'n amhosib croesi'r swnt, sydd yn cael ei ystyried gan rhai morwyr fel un o'r rhai peryclaf yn y byd o ran croesi.
Fe ddywedodd Sian fod y tywydd garw yn "arwydd o bethau i ddod a pha mor galed mae'r amodau yn gallu bod ar yr Ynys."
Prynwyd yr ynys gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ym 1979 ac fe'i rheolir gan yr Ymddiriedolaeth gyda chyngor Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW.
Mae hanes yr Ynys yn ei hun yn "anhygoel" meddai Sian.
"Daeth yn fan pwysig i'r Eglwys Gristnogol Geltaidd gan ddenu mynaich defodol.
"Yn araf bach fe sefydlwyd cymuned o amaethwyr a physgotwyr yng nghanol y ddeunawfed ganrif, â'r ynys yn eiddo i'r Arglwydd Niwbwrch.
"Mae'r cyfeiriad adnabyddus at yr ynys fel man claddu ugain mil o seintiau yn dyddio o ddyddiau cynnar y canol oesoedd, a dywedid bryd hynny bod tair pererindod i Enlli gyfwerth ag un pererindod i Rufain.
"Felly dwi ddim yn synnu fod cymaint o bobl yn ymweld â'r ynys," meddai Sian.
Gwaith caled
Ar ôl cyrraedd roedd gwaith caled yn dechrau'n syth i Sian. Roedd bod yn rheolwraig yr ynys yn golygu cynnal a chadw 10 o'r adeiladau sy'n cael eu gosod i ymwelwyr rhwng mis Ebrill a Hydref.
"Tydw i erioed wedi gweithio mor galed o'r blaen. Roedd rhaid i mi ddysgu sut i blastro waliau a thrwsio ffenestri yn sydyn iawn.
"Mae 'na lot o bobl yn synnu mai fi sydd yn gwneud y gwaith yma ond does gennych chi ddim dewis pan yr ydych yn byw ar ynys fel Enlli.
"Roedd rhaid i mi gael yr adeiladau yn barod i dderbyn ymwelwyr."
Tymor y gwyliau ydi'r cyfnod gorau mae Sian wedi ei gael wrth fyw ar Enlli.
"Un o'r pethau gorau am fyw yma ydi cael cwrdd â'r bobl sydd yn dod yma i aros. Mae pawb yn dod yma am resymau gwahanol. Rhai yn dod i werthfawrogi natur gwyllt yr ynys a rhai eraill eisiau llonyddwch a gofod i feddwl.
"Dwi'n berson pobl, felly dwi wrth fy modd croesawu pobl i'r ynys yn enwedig y gwirfoddolwyr sydd yn dod drosodd i helpu i gynnal a chadw'r adeiladau," meddai.
Gyda chymaint o bobl yn ymweld ar Ynys yn ystod tymor yr Haf mae 'na gyfleoedd i ddringo mynydd Enlli a gwerthfawrogi'r golygfeydd unigryw.
"Pan mae'r dyddiau'n hir yma mae'r golygfeydd yn anhygoel. Mae rhaid gwneud y mwyaf o'r amseroedd unigryw gan fod y tywydd yn gallu newid yn sydyn.
"Ar ddiwrnodiau braf mae posib gweld yr holl ffordd lawr arfordir Cymru a hefyd ar draws i'r Iwerddon," meddai Sian.
Gyda'r adeiladau gwyliau yn llawn does 'na ddim prinder gweithgareddau ar yr Ynys meddai.
"Mae 'na ddigon o bethau yn digwydd yma yn ystod y cyfnod gwyliau. Mae 'na bartis di-ri a nosweithiau llawen yn cael eu cynnal.
"Y parti mwyaf sydd yn aros yn y cof ydi pan ddoth fy mrawd draw i'r ynys gyda'i gariad ac fe wnaeth y ddau ddyweddïo tra oedden nhw yma.
"Roedd hwnna'n foment sbesial iawn ac un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i mi yn bersonol yn enwedig cael eistedd gyda'r ddau yn edrych ar yr haul yn machlud ar y gorwel."
Gaeaf caled
Wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen a thymor yr ymwelwyr yn dod i ben, roedd Sian yn gwybod fod y nosweithiau a'r dyddiau am fod yn hollol wahanol.
Yn gyntaf roedd rhaid i Sian baratoi am y newid tywydd eithafol sydd 'na yn ystod y gaeaf.
Roedd hi'n gwybod fod y cyfleoedd i adael yr ynys yn brin gan fod hi'n rhy beryglus i groesi'r swnt yn ystod tywydd garw.
Felly roedd rhaid gwneud yn siwr fod ganddi ddigon o fwyd i'w chynnal hi a Mark dros dymor y Gaeaf. Dyma drip felly i'r tîr mawr a prynu digon o diniau bwyd.
"Mae hi mwy neu lai yn amhosib i groesi'r swnt yn ystod misoedd y gaeaf felly mae hi'n bwysig paratoi ar gyfer aros yma am wythnosau heb ymweld a'r tîr mawr.
"Dwi'n tyfu llysiau fy hun a dwi bellach yn byw ar fwyd allan o diniau," meddai.
Does na ddim llawer i wneud ar ol iddi hi dywyllu yn y Gaeaf ond mae gan Sian ddigon ar ei phlat i'w chadw hi rhag diflasu:
"Er fod na brinder pobl ar yr Ynys, dim ond un teulu arall sydd yn byw ar yr Ynys yn barhaol sef y Porters sydd yn byw ar y fferm, ac heblaw am ymweld a nhw does 'na neb arall yma.
Stormydd Tachwedd
"Dwi'n treulio lot o amser yn darllen a dwi hefyd yn dysgu sut i chwarae'r acordion. Mae hyn yn grêt achos does 'na ddim cymdogion yma i gwyno am y sŵn dwi yn ei neud!"
Fe ddaeth y cyfnod anoddaf o'r flwyddyn i Sian ddiwedd mis Tachwedd.
Roedd lefel y gwynt wedi cynyddu ac ambell i storm yn ystod y nos.
"Mae'r stormydd yma yn ddramatig iawn a dwi bellach yn gallu darogan y tywydd drwy fesur i ba gyfeiriad mae'r gwynt yn chwythu. Os ydi'r gwynt yn chwythu o gyfeiriad y Dwyrain dwi'n gwybod ei bod hi am fod yn stormus."
Mae Sian yn deffro pob bore ac yn teimlo balchder mawr o gael byw ar Ynys Enlli.
"Dwi wrth fy modd efo byd natur ac mae cael bod yng nghanol natur yn ddyddiol yn berffaith.
"Er mai ynys gymharol fechan ydi hi, 1.5 milltir o hyd ac, ar ei man lletaf, mae'n ychydig dros hanner milltir o led, mae cymaint yma i neud.
"Dwi wrth fy modd yn mynd i nofio i 'Ogof las' ac edrych ar y morloi yn chwarae yno'n braf."
Gyda blwyddyn wedi mynd heibio mae Sian yn edrych ymlaen at ei ail flwyddyn o weithio ar yr Ynys.
"Dwi am dreulio'r Nadolig ar yr Ynys eleni.
"Dwi wrth fy modd yma. Ar ôl derbyn y swydd roeddwn wedi dweud y byddwn yn treulio o leiaf dwy flynedd yn gwneud y gwaith.
"Pwy a wŷr beth wnâi wedyn ond ar hyn o bryd allai'm meddwl am fyw 'na gweithio yn nunlle gwell 'na Ynys Enlli. Mae hi'n hawdd iawn i mi ddweud fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yr orau un o fy mywyd."