Galw am fwy o gyfyngiadau ar hysbysebu bwyd sothach

  • Cyhoeddwyd
Junk foodFfynhonnell y llun, Thinkstock

'Dyw mesurau newydd i gyfyngu ar hysbysebu bwyd sothach ar-lein i blant ddim yn mynd ddigon pell, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Mae Rebecca Evans wedi annog ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU, Jeremy Hunt, i gefnogi gwaharddiad ar draws y cyfryngau i gyd.

Daw'r alwad yn sgil rheolau newydd sy'n gwahardd hyrwyddo bwyd sy'n cynnwys llawer o fraster, halen neu siwgr mewn cyfryngau ar-lein sydd wedi'u targedu at blant.

Mae Adran Iechyd San Steffan wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i daclo gordewdra plentyndod.

'Parhau i weld hysbysebion'

Ond fe ddywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'r rheolau newydd yn mynd ddigon pell, gan eu bod nhw gwahardd hysbysebu ar gyfryngau ble mae plant yn 25% neu fwy o'r gynulleidfa yn unig.

"Fel 'dyn ni'n gwybod, nid gwylio rhaglenni a sianeli i blant yn unig y mae plant," meddai Ms Evans, sydd yn weinidog iechyd cyhoeddus a gwasanaethau cymdeithasol.

"Mae'r un peth yn wir am gyfryngau sydd ddim yn cael eu darlledu, megis gemau ar-lein a gwefannau rhannu fideos, gan olygu y bydd plant yn parhau i weld hysbysebion cynnyrch sydd ddim yn iach hyd yn oed ar ôl i reolau newydd gael eu cyflwyno."

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd San Steffan: "Rydyn ni wedi ymrwymo i daclo gordewdra plentyndod ac mae'r cyfyngiadau hysbysebu presennol yn y DU ymysg y rhai mwyaf llym yn y byd.

"Mae'r rheolau newydd gan y Pwyllgor Arferion Hysbysebu yn cyd-fynd â'n cynllun arloesol ni i leihau gordewdra plentyndod, gan gynnwys y trethi diwydiannol ar ddiodydd meddal a'n rhaglen ehangach ar leihau siwgr."