Y gwir sy'n brifo

  • Cyhoeddwyd
bbc

Mae hi'n gallu bod yn anodd rhoi beirniadaeth ar brydiau, yn ogystal â'i derbyn, yn enwedig yn y Gymraeg.

Un sy'n gyfarwydd â hyn yw Bethan Mair, sydd wedi bod yn adolygu llyfrau ers yr 1980au.

Bu Bethan yn rhannu ei phrofiadau gyda Cymru Fyw ynglŷn â'r her o adolygu yn Gymraeg:

'Fel geni babi'

Rydw i wedi bod yn adolygu llyfrau ers bron i 30 mlynedd bellach, ond rydw i hefyd wedi cyhoeddi llyfrau, ac wedi bod yn awdur a golygydd ar ambell un.

Yn hynny o beth felly, rydw i wedi bod ar ddau ben y rhaff, fel beirniad ac fel un sy'n derbyn beirniadaeth. Dwn i ddim yn iawn pa un sydd anoddaf.

Wrth feirniadu yng Nghymru, rhaid i chi fod yn ofalus nad ydych chi'n digio pobl, am y byddwch chi'n siŵr o weld yr awdur, neu'r cyhoeddwr, neu ei fodryb neu ei gi, yn yr Eisteddfod flwyddyn nesaf - a dyw awduron sy'n cael eu siomi byth yn anghofio, credwch fi.

Ond mae hi'n anodd hefyd pan fyddwch chi'n derbyn adolygiad gwael ar eich llyfr. Mae ysgrifennu a chyhoeddi llyfr ychydig fel geni babi, ond bod y cyfnod beichiogrwydd yn aml lawer iawn yn fwy!

Rydych chi wedi rhoi popeth i mewn i'r brawddegau a'r paragraffau, rydych chi a'r cyhoeddwr wedi ymlafnio dros y clawr a'r broliant, ac rydych chi wedi bod drwy broses o ddrafftio ac ail-ddrafftio - a thrydydd a phedwerydd- ddrafftio weithiau!

Ac ar ôl y llafur maith hwnnw i gyd, mae rhyw ben bach yn mynd ar Prynhawn Da a dweud: "Wel, tri allan o ddeg yr ydw i'n ei roi i'r nofel hon." Mae'n syndod nad oes mwy o contract killers ar waith yng Ngwalia, a dweud y gwir.

Ceisio bod yn garedig

Sut felly y mae bod yn adolygydd da? Yn gyntaf, rhaid derbyn nad ydych chi byth yn mynd i blesio pawb. Os ydych chi'n rhy hael eich canmoliaeth, bydd rhywun yn siŵr o ddweud eu bod nhw'n meddwl mai llyfr addas ar gyfer y tŷ bach, a dim byd arall, ydyw. Os ydych chi'n rhy llym, wel, gweler uchod am y modrybedd a'r contract killers

Ac eto, rhaid ceisio dweud y gwir fel y gwelwch chi ef, er gwell neu er gwaeth. Rhaid ceisio bod yn garedig bob amser - hyd yn oed os yw'r llyfr yn rybish. Oni bai ei fod yn rwtsh llwyr, ac yna rhaid troi at y cyngor gorau oll, sef 'os nad oes gen ti rywbeth da i'w ddweud, paid â dweud dim'.

Un waith yn unig y mae hyn wedi digwydd i mi, ond rydw i wedi rhoi llyfr yn ei ôl ar ôl i rywun ofyn i mi'i adolygu, am nad oedd gen i ddim oll calonogol i'w ddweud amdano. Roedd y llyfr yn rwtsh llwyr, ac nid oedd yn haeddu cael ei adolygu. Weithiau gall mudandod floeddio'n uwch na sgrech.

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r llyfrau oedd ar restr darllen Bethan Mair dros y Nadolig

Cofiwch eich bod chi'n cael eich talu i fynegi eich barn. Dyw'r tâl ddim yn enfawr - yn wir, weithiau dyw e'n ddim mwy na chopi am ddim o'r llyfr - ond mae rhywun wedi rhoi job o waith i chi, felly ewch ati'n gydwybodol. Os yw eich barn chi'n werth talu amdani, mynegwch hi'n hyderus, yn ddi-flewyn-ar-dafod, ond hefyd yn glên, gan gofio mai pobl fel chi fu wrthi'n ymlafnio ar y llyfr sydd o dan y lach gennych.

Ac beth os mai chi yw'r awdur sydd wedi dioddef llafn finiog yr adolygydd cas? Wel, gras sydd ei angen, a chofio, fel yr arferai fy mam-gu ddweud, y bydd rhyw ddafad arall yn torri'i choes wythnos nesaf.

Barn un person yw'r adolygiad, a rhaid i chi gael ffydd yn eich gwaith. Os yw'r adolygydd yn dweud y gwir, er mor anodd yw derbyn hynny, dysgwch ohono.