Cartrefi yng Nghymru yn gwastraffu £550m o fwyd yn 2015

  • Cyhoeddwyd
Gwastraff bwyd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwerth 118,000 tunnell o fwyd bwytadwy wedi ei wastraffu yng Nghymru yn 2015

Cafodd gwerth £550m o fwyd bwytadwy ei wastraffu gan gartrefi yng Nghymru dros gyfnod o flwyddyn yn ôl ffigyrau diweddar.

Mae gwaith ymchwil gan gwmni Wrap Cymru yn dangos bod yna 319,000 tunnell o fwyd wedi ei wastraffu gan gartrefi yng Nghymru yn 2015, gyda gwerth 118,000 tunnell yn fwytadwy.

Ond mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod y bwyd sydd yn cael ei wastraffu yng Nghymru yn gostwng i gymharu gyda gweddill y DU.

Dros gyfnod o chwe blynedd fe wnaeth cynghorau yng Nghymru gasglu 66.2kg o wastraff bwyd ar gyfer pob unigolyn yn 2015 i gymharu gyda gwerth 75.4kg chwe blynedd ynghynt.

'Ffordd hir o'n blaenau'

Roedd ffigyrau ar gyfer y DU yn dangos bod gwerth 7.3m tunnell o fwyd sydd yn gyfystyr i £13bn wedi ei wastraffu o gartrefi yn yr un flwyddyn.

Dywedodd Ysgrifennydd ar gyfer yr Amgylchedd, Leslie Griffiths: "Mae camau cadarnhaol wedi eu cymryd ers i'r ffigyrau cyntaf gael ei rhyddhau yn 2007 ond mae'r ffigyrau yma'n dangos fod yna ffordd hir yn parhau i fod o'n blaenau.

"Mae torri lawr ar wastraff bwyd yn flaenoriaeth y strategaeth gwastraff ac yn cyfranu tuag at dargedau deddf cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae hi'n galonogol gweld tystiolaeth bod lefelau gwastraff bwyd yng Nghymru wedi gostwng 12% ar gyfer pob person rhwng 2009 a 2015," meddai.