Newid gyrfa, newid byd
- Cyhoeddwyd
Naill ai oherwydd amgylchiadau teuluol neu golli gwaith, mae nifer o wahanol resymau pam fod rhai'n wynebu'r sefyllfa o orfod newid eu gyrfa yn nes ymlaen yn eu bywyd.
Un oedd yn y sefylla hon rai blynyddoedd yn ôl oedd Gwyn Elfyn. Bu'n portreadu cymeriad Denzil ar Pobol y Cwm am bron i 28 mlynedd, ond bellach mae'n weinidog yng Nghwm Gwendraeth:
"Pan adawais i Pobol y Cwm, oedd y peth yn hollol niwlog. D'on i ddim yn sicr o gwbwl i ba gyfeiriad r'on i am fynd nesa'. O'n i'n ymwybodol ar ôl cyfnod mor hir o chware un cymeriad y bydde fe'n broblem [i ffeindio gwaith arall fel actor].
"Mae'n bosib y bydde wedi bod yn rhaid i fi deithio i Loegr er mwyn cael gwaith mwy parhaol ond d'on i ddim yn dymuno gwneud hynny, felly oedd yn rhaid i fi dderbyn edrych i gyfeiriad arall am waith," meddai.
Mae Gwyn Elfyn yn cyfadde bod y cyfnod hwnnw yn ei fywyd wedi bod yn un anodd ac yn anobeithiol ar brydiau, tan iddo weld golau ym mhen draw'r twnel a chyfle am yrfa newydd.
'Adegau o iselder'
"Roedd y newid o fod yn gweithio ar Pobol y Cwm trwy'r flwyddyn i fod yn neud dim byd am bron i flwyddyn gyfan yn ysgytwad. Roedd hi'n anialwch o ran gwaith, roedd 'na adegau o iselder yr adeg hynny os dwi'n onest, ac mi oedd 'na elfen o anobaith yn cripio i mewn ar adegau."
Er iddo fod yn aelod ffyddlon a gweithgar yng Nghapel Seion, Drefach dros y blynyddoedd, ac yno bu ei dad yn weinidog, doedd dilyn gyrfa yn y weinidogaeth ddim yn fwriad ganddo bryd hynny, meddai.
"Ces i fy mherswadio, ar ôl sawl sgwrs gyda'r gweinidog ar y pryd, y Parch Wilbur Lloyd Roberts. Er mod i'n Ysgrifennydd yn y capel ac yn 'neud llawer yno ers blynyddoedd, d'on i ddim wedi bwriadu bod yn weinidog, nes iddo fe fy argyhoeddi y bydden i'n gallu 'neud y gwaith."
Yn ystod blwyddyn gychwynnol fel Arweinydd Capel Seion ac yn cysgodi'r Parch Lloyd Roberts ar ddyletswyddau fel priodasau, angladdau a bedydd ac yn cymryd rhan mewn gwasanaethau, fe sylweddolodd y gallai gymryd cam ymhellach a mynd i'r weinidogaeth. Bellach mae'n weinidog ar dri chapel yn Drefach, Pontiets a'r Tymbl, ac heb edrych yn ôl.
"I ddechre, roedd gen i lawer o amheuon am fy addasrwydd i ar gyfer y gwaith, ond gyda threiglad amser fe ddaeth hi'n amlwg fy mod i wedi gofidio lle nad oedd angen falle. Dw'n teimlo bod y gwaith yn fy siwtio i, dwi'n mwynhau gweithio gyda phobl, eu helpu a'u cynnal nhw.
"Ro'n ni fel teulu wedi byw gyda Denzil am 28 mlynedd felly mi oedd e'n gryn newid. Dwi ddim yn colli'r gwaith [actio] ond mi ydw i'n colli'r ffrindie oedd 'da fi yng Nghaerdydd ond dwi'n teimlo erbyn hyn fod fy ngwaith yn fwy boddhaol a mod i'n cyflawni mwy.
"Sdim pwynt edrych nôl. Rhaid edrych mlaen o hyd a gwerthfawrogi yr hyn sy' gyda ni."
Roedd Meic Watson o Mynydd Isa ger yr Wyddgrug yn gweithio ym maes awyrennau am flynyddoedd. Yn gweithio yn y diwydiant ac yn ddarlithydd ar y pwnc, pan oedd yn ei 40au fe wnaeth benderfyniad mawr i adael ei swydd broffesiynol a mynd i lenwi silffoedd mewn archfarchnad.
"Ar ôl graddio, fe es i weithio i gwmni British Aerospace ym Mryste, yna fues i gyda'r Llu Awyr ac yna nôl i Fryste. Ar ôl tua pymtheg mlynedd, nes i benderfynu ddod yn ôl i'r gogledd, priodi ac yna fe fues i'n darlithio ar Awyrennau a Pheiriannau yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy.
"Mi ges i waith gyda chwmni Corning yn creu optical fibres yn Sir y Fflint, ond ar ôl tair blynedd cafodd y ffatri ei chau a chollodd 420 ohonom ein gwaith. Pan ges i fy neud yn ddi-waith o'r fan honno fe ges i swydd yn bennaeth Adran Awyrennau Coleg y Barri yn y de.
"Fe wnaethon ni'r penderfyniad i beidio codi pac a symud y teulu, felly r'on i ffwrdd o adre a'r oriau hir yn annymunol. Erbyn hyn ro'n i tua 45 oed a dyna pryd nes i benderfynu fy mod i wedi cael digon ar y cyfrifoldebau oedd yn dod gyda'r swydd, ac fe es i nôl i'r Wyddgrug a stacio silffoedd yn Tesco.
"Roedd yn benderfyniad mawr iawn i'r teulu ac yn gyfnod anodd. Cafodd fy ngwraig swydd yn nyrsio llawn amser a r'on i'n gweithio yn yr archfarchnad yn y nos, felly mewn ffordd roeddwn i'n house husband yn y dydd a gweithio gyda'r nos. Roedd gen i fwy o amser gyda'r teulu ond mi roedd hi'n anodd yn ariannol, a ro'n i'n flinedig iawn.
"Pan dwi'n edrych nôl ar bymtheg mlynedd o weithio mewn archfarchnadoedd, dwi'n meddwl roedd hi'n anodd iawn. Ond er ei fod yn ailadroddus, oherwydd natur y swydd roedd hi'n amhosib dod â'r gwaith adre gyda fi ac felly mi roedd 'na lot llai o bwysau ar ein bywyd."