Geraint Jarman yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig y Selar

  • Cyhoeddwyd
Geraint Jarman

Y canwr Geraint Jarman fydd yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig gan y Selar eleni.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi i artist neu grŵp sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i'r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg.

Fe fydd Jarman yn derbyn y wobr yn ystod noson Gwobrau'r Selar ym mis Chwefror.

Mae'n 40 mlynedd ers i'r cyfansoddwr, gafodd ei fagu yng Nghaerdydd, ryddhau ei albwm gyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif.

Ers hynny mae wedi cyhoeddi sawl albwm arall gan gynnwys Tacsi i'r Tywyllwch, Hen Wlad Fy Nhadau a Diwrnod i'r Brenin.

Dewis yn hawdd

Yn ôl trefnydd Gwobrau'r Selar, Owain Schiavone, doedd dewis enillydd ar gyfer y wobr ddim yn anodd y tro yma.

Dywedodd: "Roedd dewis enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig yn weddol rwydd eleni gan fod 2016 yn nodi 40 mlynedd ers i Geraint Jarman ryddhau ei albwm cyntaf.

"Does dim amheuaeth bod cyfraniad Jarman i'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn un enfawr, ac mae'r cyfraniad yn ymestyn i'w bumed degawd bellach gyda rhyddhau'r ardderchog 'Tawel yw'r Tymor' ar label Ankst."

Bydd yr artist yn perfformio mewn gig acwstig yn ystod penwythnos Gwobrau'r Selar yn Aberystwyth ac ar ddydd Iau 12 Ionawr bydd ei gyfraniad yn cael ei nodi wrth i Radio Cymru gynnal Diwrnod Jarman.

Dyma'r ail waith i'r wobr Cyfraniad Arbennig gael ei chynnig, wedi i grŵp Datblygu dderbyn y wobr y llynedd.