Theresa May: 'Bydd y DU yn gadael y farchnad sengl'

  • Cyhoeddwyd
Theresa MayFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Deyrnas Unedig yn rhoi'r gorau i fod yn aelod o'r farchnad sengl, yn ôl Theresa May

Mae'r prif weinidog Theresa May wedi cyhoeddi y bydd y Deyrnas Unedig yn rhoi'r gorau i fod yn aelod o farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn araith ddydd Mawrth dywedodd y byddai parhau yn y farchnad sengl gyfystyr â "pheidio gadael yr UE o gwbl".

Mae'r cyhoeddiad wedi ei feirniadu a'i groesawu gan wleidyddion yng Nghymru.

Dywedodd prif weinidog Cymru, Carwyn Jones bod "sawl peth sydd angen eu datrys o hyd" yn dilyn yr araith, a'i fod yn aghytuno â Mrs May dros y farchnad sengl.

Ychwanegodd Jo Stevens, llefarydd Llafur ar Gymru, y byddai'r cyhoeddiad yn andwyol i economi Cymru tra bod Jonathan Edwards, llefarydd Plaid Cymru ar drafodaethau Brexit, wedi rhybuddio bod y penderfyniad yn un trychinebus gan ei alw'n "Brexit eithafol".

Disgrifiad,

Alun Cairns: Masnach yr un mor bwysig i'r UE ag i'r DU

Ond mynnodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, na fyddai'r penderfyniad yn niweidiol i'r economi.

Ac fe awgrymodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns y byddai aros yn rhan o'r farchnad sengl hefyd yn dod law yn llaw â hawl i bobl fudo'n rhydd.

"Yn amlwg mae hynny'n rywbeth na fydd pobl y DU yn ei dderbyn," meddai.

Dywedodd Mrs May y byddai'r Senedd yn San Steffan yn cael y gair olaf ar y cytundeb terfynol rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd.

Ychwanegodd y byddai'n ymgynghori yn llwyr gyda'r llywodraethau datganoledig yn y trafodaethau wrth lunio cynllun Brexit.

'Tôn yn well'

Disgrifiad,

Ymateb cymysg Carwyn Jones i araith Theresa May

Fe siaradodd Carwyn Jones â Theresa May dros y ffôn cyn yr araith, ond dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn dal i anghytuno â rhai elfennau o beth ddywedodd hi.

"Roedd rhywfaint ohono i'w groesawu. Roedd y tôn yn well, doedd e ddim mor ymosodol â'r ffordd y mae adain genedlaetholgar ei phlaid yn tueddu i'w esbonio," meddai wrth ACau.

Mynnodd fodd bynnag, yn sgil y penderfyniad i ganiatáu i Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi gael pleidlais ar delerau terfynol Brexit, y dylai'r Senedd ym Mae Caerdydd gael lleisio'u barn hefyd.

Dywedodd y gallai'r Cynulliad parhau i weithredu cyfarwyddiadau Ewropeaidd ar ôl gadael yr UE petaen nhw'n dymuno, ac y byddai'n parhau i ymgyrchu dros "fynediad llawn a rhydd" i'r farchnad sengl.

"Beth sy'n rhaid i ni osgoi yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf yw unrhyw beth sy'n rhwystro gallu busnesau ac allforwyr o Gymru, ac felly ei gwneud hi'n anoddach iddyn nhw gyflogi pobl," meddai.

Dadansoddiad Elliw Mai, Gohebydd Seneddol BBC Cymru

Dyma araith bwysicaf a mwyaf arwyddocaol Theresa May fel prif weinidog.

Mae hi wedi dod dan bwysau cynyddol i esbonio beth yn union yw ei chynllun ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd. Penderfyniad sy'n mynd i effeithio ar ein bywydau ni i gyd.

Heddiw am y tro cyntaf roedd hi'n gadarn y byddai Prydain yn gwneud toriad clir ac nad yw'n bosib i ni aros o fewn y farchnad sengl os ydyn ni am sicrhau rheolaeth lwyr dros ein deddfau a'n ffiniau.

Partneriaeth hafal gyda'r Undeb Ewropeaidd yw'r weledigaeth yma yn ôl Theresa May.

I rai o'i beirniaid yng Nghymru mae'n cael ei weld fel Brexit eithafol - a gyda 68% o'n hallforion yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd, mae'n gynllun maen nhw'n credu sy'n mynd i niweidio ein heconomi.

Yn ôl Jonathan Edwards o Blaid Cymru mae'n "drychinebus". "Anghyfrifol" yw'r gair sy'n cael ei ddefnyddio gan Eluned Morgan o'r Blaid Lafur.

A'r feirniadaeth yw bod y Prif Weinidog yn rhoi buddiannau ei phlaid o flaen economi Cymru.

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies yn gwadu y bydd yn niweidio ein heconomi ac yn mynnu bod rhaid derbyn bod mwyafrif etholwyr Cymru wedi pleidleisio nid i newid yr Undeb Ewropeaidd ond i adael.

Mae Theresa May yn mynnu y bydd gan Gymru lais yn y broses drwy gydol y trafodaethau, ond er ei bod hi'n addo pleidlais ar y cytundeb terfynol i Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, doedd 'na ddim yr un addewid i'r sefydliadau datganoledig.

Efallai bod pethau rhywfaint yn gliriach nawr, ond 'dyn nhw'n sicr ddim yn plesio pawb.