Cyhoeddi cronfa o £36m i leihau maint dosbarthiadau
- Cyhoeddwyd

Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £36m er mwyn lleihau maint dosbarthiadau babanod mewn ysgolion cynradd.
Dywedodd Kirsty Williams mai'r nod yw codi safonau ac ehangu cyfleoedd i blant a phobl ifanc.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod dros 7% o ddisgyblion ifanc yng Nghymru mewn dosbarthiadau sy'n cynnwys mwy na 30 o blant.
Y blynyddoedd cynnar mewn ysgol yw'r pwysicaf os am roi'r dechreuad gorau mewn addysg i blant, medd arbenigwyr.
Yn ôl y rheolau, ar wahân i rai sefyllfaoedd eithriadol, ni ddylai dosbarth ar gyfer plant hyd at saith oed yng Nghymru gynnwys dros 30 o ddisgyblion, lle mae un athro'n unig yn gyfrifol am y dysgu.
Ond yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae bron i 8,200 o ddisgyblion yng Nghymru mewn dosbarth sydd â mwy na 30 o blant - 7.6% o ddisgyblion.
Bydd £36m ar gael dros y pedair blynedd nesaf i geisio gwella'r sefyllfa.

Codi safonau ac ehangu cyfleoedd i blant a phobl ifanc yw'r nod, medd Kirsty Williams
Yn ôl Ms Williams, mae hi'n ymateb i bryderon rhieni sydd wedi dweud wrthi eu bod yn poeni am nifer y plant mewn dosbarthiadau.
Wrth gyhoeddi'r gronfa newydd, dywedodd fod tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod cysylltiad rhwng lefelau cyrhaeddiad disgyblion a dosbarthiadau sy'n llai o ran maint, a hynny yn enwedig i blant o gefndiroedd llai breintiedig.
Bydd y cyllid, sy'n gymysgedd o arian refeniw a chyfalaf, yn cael ei dargedu mewn cymunedau difreintiedig ac ysgolion ble mae angen gwella.
Fe fydd y gronfa ar gael nes 2021, gyda'r bwriad, meddai Ms Williams, o ganiatáu lle i athrawon i addysgu ac i blant i ddysgu.