Llai o ysgolion angen y lefel uchaf o gymorth

  • Cyhoeddwyd
ysgol

Mae canlyniadau ar gyfer perfformiad ysgolion Cymru yn dangos fod nifer yr ysgolion sydd angen y lefel uchaf o gymorth - ysgolion yn y categori coch - wedi gostwng o'i gymharu â'r llynedd.

Yn yr un modd, mae mwy o ysgolion wedi eu rhoi yn y categori gwyrdd - lle mae angen lefelau is o gefnogaeth arnynt.

Dyma'r drydedd flwyddyn i'r system liwiau gael ei defnyddio gyda phob ysgol yn cael gradd gan ddibynnu ar nifer o feini prawf.

Mae ysgolion yn cael eu didoli i gategori lliw sy'n mynd o wyrdd, i felyn, oren a choch.

Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

'Annog ein hysgolion i wella'

Fe gafodd canlyniadau 2016 eu cyhoeddi ar wefan Fy Ysgol Leol, dolen allanol.

Yn ôl y ffigyrau diweddara' mae 54 o ysgolion uwchradd yn y categori gwyrdd, a 21 yn y categori coch.

Llynedd, 39 oedd yn y categori gwyrdd, gyda 26 yn ysgolion coch.

O ran ysgolion cynradd, mae 355 o ysgolion categori gwyrdd eleni, a 22 o rai coch.

Llynedd, roedd 294 o ysgolion cynradd gwyrdd, a 32 o rai coch.

Mae'r ffigyrau yn dangos fod cyfran yr ysgolion gwyrdd wedi cynyddu 5% yn y sector cynradd a 7% yn y sector uwchradd.

Hefyd mae'r ffigyrau yn dangos fod cyfran yr ysgolion coch wedi gostwng 1% yn y sector cynradd a 2% yn y sector uwchradd.

Mae 41% ysgolion arbennig wedi'u categoreiddio'n ysgolion gwyrdd.

Dim ond 8% sydd wedi'u categoreiddio'n ysgolion coch y mae angen y gefnogaeth fwyaf arnynt.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kirsty Williams groesawu'r canlyniadau

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams: "Nid graddio, labelu na llunio tablau cynghrair amrwd yw nod y system hon ond yn hytrach, mae'n ymwneud â darparu cefnogaeth ac annog ein hysgolion i wella.

"Mae'r ffigyrau rydym wedi'u cyhoeddi heddiw yn dangos bod 84.4% o ysgolion cynradd a 64.6% o ysgolion uwchradd yn y categorïau gwyrdd a melyn erbyn hyn.

"Mae'r cynnydd hwn i'w groesawu, a bydd gan yr ysgolion hyn rôl allweddol i'w chwarae er mwyn cefnogi ysgolion eraill, drwy rannu eu sgiliau, eu harbenigedd a'u harferion da."

Dadansoddiad Cemlyn Davies, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Fe gyhoeddwyd y canlyniadau perfformiad cyntaf yn ôl y drefn newydd yma yn 2015, ac ers hynny mae'r nifer o ysgolion yn y categori gwyrdd - ac sydd angen lleiaf o gymorth felly - wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Yn yr un modd mae'r nifer o ysgolion coch - sydd angen y cymorth mwyaf - wedi parhau i gwympo.

Ond tra bod Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia addysg yn ymfalchïo yn y canlyniadau, mae'n werth nodi bod undebau dysgu'n parhau'n amheus am y modd yma o asesu ysgolion gan ddadlau nad yw'n llwyr ystyried yr holl ffactorau all ddylanwadu ar berfformiad ysgol.

Ac wythnos yn ôl fe gyhoeddodd y corff arolygu Estyn, adroddiad a feirniadodd safon y dysgu mewn ysgolion uwchradd yn enwedig.

'Gosod ysgol yn erbyn ysgol'

Dywedodd llefarydd ar ran UCAC fod y ffigyrau yn bositif ond eu bod yn parhau yn amheus iawn "o broses sy'n gosod ysgol yn erbyn ysgol".

"Mae'n dangos fod safonau yn codi yn y sector cynradd ac uwchradd," meddai Ywain Myfyr, sy'n Swyddog Polisi efo'r undeb.

"Mae hyn yn amlwg yn adlewyrchu gwaith caled athrawon wrth addysgu a chefnogi disgyblion o bob oedran.

"Mae yn dangos ymdrechion mawr ysgolion sy'n wynebu heriau enfawr y dyddiau yma o safbwynt llwyth gwaith, diffyg adnoddau ariannol a thoriadau staffio."

Dywedodd David Evans, Ysgrifennydd yr NUT yng Nghymru, fod y ffigyrau yn rhai positif.

"Ond ni ddylwn gamddehongli'r ffaith fod categoreiddio ond yn un fodel o asesu, ac yn ddarlun o un rhan o'r perfformiad," meddai.

"Fe fydd perfformiad ysgolion yn amrywio oherwydd sawl rheswm, gan gynnwys y cyllid sydd ar gael a ffactorau eraill.

"Beth sy'n bwysig yw ein bod yn defnyddio'r canlyniadau mewn modd synhwyrol mewn modd i gefnogi ysgolion."