Metro'r gogledd 'am gyrraedd disgwyliadau'r cyhoedd'
- Cyhoeddwyd
Bydd cynllun ar gyfer metro gogledd Cymru yn cyrraedd disgwyliadau'r cyhoedd, yn ôl Ysgrifennydd yr Economi.
Byddai prosiect trafnidiaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru yn cynnwys cymysgedd o drenau, tramiau a gwasanaethau bws.
Dywedodd Ken Skates bod cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr yn bwysicach nag erioed yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae rhai wedi beirniadu map y metro am nad yw'n cynnwys Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.
'Buddsoddiad sylweddol'
Roedd cynllun metro'r gogledd yn un o brif addewidion y blaid Lafur cyn etholiad y Cynulliad y llynedd.
Fe wnaeth Mr Skates amddiffyn y prosiect yn ystod lansiad cynllun Symud Gogledd Cymru Ymlaen yn Y Rhyl ddydd Iau.
Dywedodd y byddai'r metro yn derbyn "swm sylweddol o fuddsoddiad" gan Lywodraeth Cymru.
Mae tua £50m wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer cam cyntaf datblygu'r prosiect.
"Mae'n gynllun mawr hirdymor fydd yn datgelu potensial yr economi a chyrraedd disgwyliadau'r bobl sydd eisiau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond sydd ar hyn o bryd yn darganfod bod gormod o rwystrau i wneud hynny," meddai Mr Skates.
"Mae potensial enfawr ar gyfer twf economaidd yng ngogledd Cymru. Mae system drafnidiaeth fodern, integredig ac o safon uchel yn hanfodol i gyflawni'r potensial yna ac rwyf wedi ymrwymo i weithio i wneud hynny'n realiti."
Yn ôl Mr Skates, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi tua £600m mewn cynlluniau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru - gan gynnwys y gogledd-orllewin, fel trydedd bont dros Afon Menai.
Dywedodd bod y metro yn fwy addas ar gyfer ardaloedd dinesig, a bod angen cynllun "cefn gwlad" ar gyfer y gogledd-orllewin.