Papurau Bro yn mynd o nerth i nerth
- Cyhoeddwyd

Papurau bro ar werth mewn siop yng Nghaernarfon
Wrth i'r tirlun newyddiadurol weld newidiadau sylweddol yng Nghymru, mae yna un rhan o'r diwydiant sydd wedi aros yn sefydlog - y papurau bro.
Ers degawdau mae rhwydwaith o dros 50 o bapurau bro misol wedi bod yn adrodd hanesion cymunedau Cymru a hynny yn y Gymraeg.
Er bod cylchrediad papurau newydd traddodiadol yn gostwng, gyda nifer o deitlau yn cael eu huno, mae'r papurau bro - sy'n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr - wedi llwyddo i gadw cylchrediad sefydlog o tua 56,000 y mis.
Cyn hir bydd papur bro newydd yn dechrau yn Y Fenni, yr ardal olaf yng Nghymru sydd heb bapur bro ar hyn o bryd.
Erbyn hyn mae mwy a mwy o wefannau Saesneg lleol hefyd yn ymddangos yng Nghymru, fel y Caerphilly Observer, dolen allanol a Wrexham.com, dolen allanol.
Mae Glyn Tomos, golygydd Papur Dre, dolen allanol yng Nghaernarfon, yn credu fod apêl y papurau bro yn syml.
"Mae pobl am weld eu hunain yn y papur, " meddai.
"Dyna sut mae mesur llwyddiant. A phe na bai pobl yn gweld eu hunain, yna wnawn nhw ddim prynu," meddai.
Mae tua 1,200 yn prynu Papur Dre, sef tua un ym mhob pump o oedolion Caernarfon.
Gwirfoddolwyr sy'n dosbarthu'r papur, tra bod y tudalennau yn llawn o hysbysebion gan fusnesau lleol.
"Mae'r pwyslais ar bobl Caernarfon, sut maen nhw'n byw eu bywydau a chymeriadau'r ardal," meddai Mr Tomos.

Mae gwirfoddolwyr yn hanfodl i lwyddiant y papurau bro fel Papur Dre
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweld gwerth i'r papurau bro.
Y llynedd fe wnaethant gyfrannu £88,880 i 52 o bapurau bro.
Fe wnaeth adroddiad blynyddol llywodraeth ar yr Iaith Gymraeg yn 2016 ddweud fod yna "le pwysig iawn i'r papurau bro ym mywydau cymunedau Cymru".
Yn ogystal â straeon traddodiadol am wleidyddiaeth leol, capeli, ysgolion lleol a Merched y Wawr, mae'r papurau, yn enwedig y fersiynau digidol, yn rhoi mwy mwy o bwyslais ar newyddion.
Dywed Emma Meese, un o olygyddion Pobl Caerdydd, dolen allanol, fod y papur wedi torri nifer o straeon newyddion.
"Y ni wnaeth holi yn gyntaf pam fod arwydd newydd gorsaf Heol y Frenhines yn uniaith Saesneg. Fe wnaeth hynny droi yn ymgyrch ar-lein. Rydym hefyd wedi bod yn ymgyrchu am ysgol Gymraeg newydd i ardal Grangetown.
"Mae ein darllenwyr yn weithgar iawn ar Twitter, ac rydym yn cyrraedd cynulleidfa wahanol."

Y Dinesydd oedd papur bro cyntaf Cymru
Yng Nghaerffili mae'r Observer yn dangos fod arddull papurau bro hefyd yn gallu apelio at ddarllenwyr yn Saesneg.
Dywedodd Richard Gurner ei fod o wedi sefydlu'r papur ar ôl teimlo yn "rhwystredig" nad oedd yn gallu cael newyddion lleol.
Erbyn hyn mae gan y papur dri o staff cyflogedig a chylchrediad o tua 10,000.

Y golygydd Richard Gurner gyda rhifyn cyntaf y Caerphilly Observer
Ond mae yna anawsterau hefyd.
Mae nifer darllenwyr Papur Dre wedi gostwng o 1,600 i 1,200.
Dywed y golygyddion fod hyn yn rhannol oherwydd yr ymroddiad i werthu drwy ddefnyddio siopau lleol, a bod nifer o'r rheiny wedi rhoi'r gorau i fasnachu.
Ond mae'r papur, sy'n 18 oed, wedi moderneiddio er mwyn denu darllenwyr newydd, ac erbyn hyn mae'n cynnwys tudalennau lliw.
Maer' holl erthyglau i'w cael ar-lein, ar ap yn ogystal â Facebook a Twitter.
"Roedd yn rhaid addasu, Mae pobl am weld lliw, mae'n rhaid i'r papur edrych yn dda yn y siop," meddai Glyn Tomos.
Problem arall yw bod nifer y gwirfoddolwyr yn lleihau.
"Fe ddechreuom ni pan yn ein 40au hwyr - erbyn hyn rydym yn ein 60au cynnar.
Felly mae'n golygu trio denu rhai iau i gyfrannu, ac o bosib i gymryd yr awenau pan ddaw'r amser ."
