£7m ychwanegol i wasanaeth awtistiaeth Cymru gyfan

  • Cyhoeddwyd
bachgenFfynhonnell y llun, Jovanmandic / Getty Images

Bydd £7m yn ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaeth awtistiaeth Cymru, yn ôl y llywodraeth.

Daw'r cyhoeddiad ddydd Llun ar ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth.

Nod yr arian yw darparu gwasanaethau diagnostig newydd ar gyfer oedolion, cynnig cymorth i deuluoedd a gofalwyr, pontio o ddarpariaethau plant i ddarpariaethau oedolion, a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bydd "rhanbarthau" Cymru yn medru rhoi "cymorth cynaliadwy i deuluoedd" yn sgil yr arian ychwanegol.

Ond yn ôl y Ceidwadwyr, dyw'r arian ddim yn "lleihau'r angen" am ddeddf awtistiaeth.

Mae'r llywodraeth wedi dweud yn y gorffennol bod y drws yn "lled agored" ar gyfer ddeddf o'r fath.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Aelodau'r Cynulliad heb gymeradwyo deddfwriaeth ar awtistiaeth, yn groes i Loegr a Gogledd Iwerddon

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i greu gwasanaeth cenedlaethol i roi cymorth i blant ac oedolion sydd ag awtistiaeth, ac mae disgwyl iddi fod yn weithredol ar draws y wlad yn 2018.

"Mae'r cyllid ychwanegol dwi wedi ei gyhoeddi heddiw, ar ddechrau Wythnos Genedlaethol Awtistiaeth, yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella gwasanaethau awtistiaeth", meddai Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans AC.

"Dwi'n hyderus y bydd y cyllid hwn dros gyfnod o bedair blynedd yn sicrhau y bydd ein rhanbarthau'n gallu darparu cymorth cynaliadwy i deuluoedd."

Galw am 'gydnabyddiaeth statudol'

Ond dywedodd y Ceidwadwr, Mark Isherwood AC, bod angen deddf benodol ar gyfer awtistiaeth, fel sydd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr arian yma ar gyfer pobl ag awtistiaeth yn cael ei warchod a'i fonitro'n iawn, yn wahanol i achosion blaenorol", meddai.

"Mae'r gymuned awtistiaeth yn galw am gydnabyddiaeth statudol go iawn, fel bod gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddyletswyddau eglur iawn ar y llyfr statudau.

"Rydyn ni angen deddfwriaeth fel bod Cymru yn medru arwain y ffordd o ran darparu gwasanaethau effeithiol a chyson i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan awtistiaeth".

Mae AC Plaid Cymru, Neil McEvoy, hefyd wedi beirniadu Llafur yn y gorffennol am beidio llunio deddf ar awtistiaeth.

Dywedodd wrth gynhadledd y blaid ym mis Hydref y dylai Plaid "wneud dim â Llafur" am iddyn nhw "dorri cytundeb" i greu deddf benodol am y cyflwr.