Angen targedau ar gyfer gwasanaeth awtistiaeth newydd

  • Cyhoeddwyd
Gethin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gethin Jones a'i nai Alby sydd gyda awtistiaeth

Dylai gwasanaeth awtistiaeth newydd fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni fod gyda thargedau yn rhan ohono, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru.

Bwriad y gwasanaeth newydd gan Lywodraeth Cymru yw gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i blant ag oedolion sydd gydag awtistiaeth a bydd sefydliadau gwahanol ac arbenigwyr iechyd yn gweithio gyda'i gilydd.

Mae Meleri Thomas o'r sefydliad yn dweud bod yn rhaid cael targedau er mwyn "monitro cynnydd".

"Os nad yw'r cynnydd yna i'w gweld yna dyle'r llywodraeth fynd i'r afael a hwnna a rhoi mesurau i mewn i wneud yn siŵr bod pethe yn gwella," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Meleri Thomas

Ond dyw'r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, ddim yn credu fod angen targedau ar gyfer y gwasanaeth.

"Rhan o'r her o hyd pan mae 'na dargedau a mesurau yn eu lle yw ydyn nhw yn rhai call sydd yn gyrru'r math o ymddygiad i weld gwelliant?," meddai.

Mae'n dweud bod y gwasanaeth yn gam ymlaen o'r strategaeth awtistiaeth ddaeth i rym yn 2008.

"Mi fydde obsesiwn am dargedau yn golygu anghofio beth sydd yn bwysig fan hyn," ychwanegodd. "Mae hyn ynglŷn ag adeiladu ar y strategaeth arloesol oedd gyda ni yn y lle cyntaf, deall y cynnydd ni wedi gwneud, deall y cynnydd pellach sydd dal angen ei wneud a sut y dylai'r strategaeth yma fynd i'r afael a hynny."

£6 miliwn

Yn ddiweddarach yr wythnos yma fe alwodd y gymdeithas am Ddeddf Awtistiaeth i Gymru. Maen nhw'n dweud bod y ddarpariaeth yn anghyson a bod pobl yn dal i orfod aros rhy hir am ddiagnosis.

Mae £6 miliwn wedi cael ei ddynodi ar gyfer y gwasanaeth newydd, fydd wedi ei ymestyn ar draws Cymru erbyn 2019,

Bydd timau arbenigol yn cael eu datblygu i oedolion fydd yn cynnig darpariaeth ddiagnostig a hefyd y bwriad yw gwella'r ddarpariaeth i blant sydd ag ASD.

Mae yna hefyd ymdrech i gynnig mwy o gymorth a chyngor yn ogystal â hyfforddiant i rieni a gofalwyr.

Dadansoddiad Owain Clarke, Gohebydd Iechyd BBC Cymru

Casgliadau adroddiad annibynnol diweddar oedd fod strategaeth 2008 wedi methu newid a gwella gwasanaethau yn ddigonol ar lefel cenedlaethol a hynny er bo'r cynllun gwreiddiol wedi llwyddo i ddatblygu arferion da mewn rhai mannau.

Felly heddiw mae Llywodraeth Cymru yn datgelu cynllun awtistiaeth newydd - a'r addewid pennaf yw sefydlu un gwasanaeth awtistig cenedlaethol i blant ac oedolion.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'n bosib mai hwn fydd y gwasanaeth cyntaf o'i fath yn y byd.

Ond tra'n croesawu'r cynllun yn gyffredinol mae'r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn rhybuddio y gallai fod yn anodd asesu ei lwyddiant a hynny oherwydd nad yw'n cynnwys targedau cadarn a manwl.

Mae Newyddion 9 wedi bod yn siarad gyda'r cyflwynydd teledu Gethin Jones. Mae gan ei nai, Alby, awtistiaeth.

Disgrifiad,

Gethin Jones yn rhoi ei farn am y cymorth sydd ar gael i rhai gyda awtistiaeth

Mae wedi mynd ati i sefydlu elusen gyda'i ffrind i gynnig cefnogaeth i blant gydag awtistiaeth.

"Alby oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i sefydlu Nai, elusen ni wedi dechrau i helpu plant sydd gydag awtistiaeth - naill ai yng Nghaerdydd neu Gymru," meddai. "So ni yn siŵr sut ni mynd i helpu. Y cyfan ni yn gwybod yw bod ni yn gallu codi lot o arian.

"Mae angen lot o arian o ran ymchwil ac o ran pethe sydd yn fwy byr dymor, yn enwedig plant yn yr ardal yma."