1 o 38,000: Tystiolaeth ôl troed yn dal ymosodwr rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 30-oed o Ddinbych-y-Pysgod wedi cael dedfryd o 10 mlynedd o garchar wedi i dditectif arbenigol archwilio 38,000 o luniau o wadnau gwahanol esgidiau i brofi pa esgid ymarfer roedd o'n ei wisgo wrth ymosod yn rhywiol ar ddynes yn ei chartref.
Dringodd Andrew Check drwy ffenest ystafell wely tra bod y ddynes yn cysgu, gan ddal cyllell i'w gwddf wrth ymosod arni.
Cafodd ditectif sy'n arbenigo ar ymchwilio i wadnau esgidiau ei galw gan Heddlu Dyfed-Powys i archwilio ôl troed esgid gafodd ei adael wrth i'r ymosodwr ffoi o'r tŷ.
Cadarnhaodd Adele Benjafield eu bod yn chwilio am ddyn â math arbennig o esgid dennis Fred Perry - tystiolaeth wnaeth arwain at arestio Check.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod y ddynes wedi deffro yng nghanol nos, a gweld rhywun mewn dillad tywyll yn sefyll wrth ei gwely.
'Rhan dda' a 'rhan ddrwg'
Er iddi geisio atal yr ymosodiad, penderfynodd y byddai'n saffach yn ildio, ac wrth iddo ddal cyllell i'w gwddf, fe geisiodd hi siarad ag e er mwyn osgoi ei wylltio.
Dywedodd yr erlyniad ei bod yn credu bod y dyn ar fin ei threisio, ac roedd hi eisiau lleihau yr hyn roedd yn digwydd iddi.
Clywodd y llys bod Check wedi dweud wrthi bod y rhan "dda" ohono yn gwybod na ddylid fod yn ymosod arni, ond bod y rhan "ddrwg" yn ei annog i barhau gyda'r ymosodiad.
Wedi'r drosedd ym mis Ionawr, fe gychwynnodd y gwaith o archwilio'r bas data i gadarnhau gwneuthuriad esgid yr ymosodwr.
Wrth i'r heddlu holi o ddrws i ddrws yn Ninbych-y-Pysgod, roedd pryd a gwedd Check yn debyg i'r disgrifiad o'r dyn roedden nhw'n chwilio amdano.
Roedd e hefyd yn berchen ar esgidiau tennis Fred Perry. Er nad dyma'r union esgidiau roedd yn eu gwisgo noson yr ymosodiad, roedd y wybodaeth yn ddigon i'r heddlu ddechrau ei amau.
Wedi hynny, daethpwyd o hyd i DNA y ddynes ar faneg yn nhŷ Check. Plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Mewn datganiad fideo, dywedodd y ddynes ei bod "yn dal i gael hunllefau, gofid a phanig", ac yn cael trafferth cysgu.
"Dydw i ddim yn gwybod sut na phryd y bydda' i'n gallu ailafael yn fy mywyd," meddai.
Braw ac arswyd
Wrth ddedfrydu Check i 10 mlynedd o garchar, dywedodd y Barnwr Keith Thomas bod troseddau o'r fath yn achosi niwed corfforol a seicolegol.
"Mae'r fath drosedd yn achosi braw ac arswyd," meddai.
Dywedodd Adele Benjafield bod mwy o bwyslais erbyn hyn ar dystiolaeth ôl troed.
"Mae yr un mor werthfawr ag olion bysedd a samplau DNA," meddai, gan ychwanegu bod hi'n arferol bellach i sganio esgidiau pobl sy'n cael eu harestio.
"Yn yr achos hwn, roedden ni'n ffodus oherwydd natur y tywydd adeg yr ymosodiad, a'r ffaith nad oedd y dioddefwyr wedi cyffwrdd neu symud unrhyw beth cyn i'r heddlu gyrraedd."
Dywedodd arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Uwcharolygydd Ifan Charles o Heddlu Dyfed-Powys, bod Check dan glo o ganlyniad cyfuniad o waith yr uned arbenigol, a'r ffaith i blismyn lleol fod mor wyliadwrus wrth gynnal ymholiadau yn y dref.