Ymgais i ddenu mwy o ymwelwyr i'r Parciau Cenedlaethol
- Cyhoeddwyd

Y gobaith yw ymestyn y cyfnod gwyliau ymhellach na'r haf
Mae prosiect newydd ar y gweill i hyrwyddo parciau cenedlaethol Cymru fel lleoliadau awyr dywyll er mwyn denu mwy o ymwelwyr.
Mae gwefan Discovery in the Dark Wales yn cynnwys gwybodaeth ar sut ddarganfod anturiaethau gwahanol i seryddiaeth.
Mae'r cynnwys wedi'i gynhyrchu gan awdurdodau parciau cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog a Penfro.
Mae trefnwyr yn dweud y gallai'r statws ymestyn cyfnod ymwelwyr ymhellach na'r haf a lleihau llygredd golau.
Dywedodd Hannah Buck o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: "Nod yw prosiect yw codi ymwybyddiaeth o'r hyn sydd uwch ein pennau yn yr awyr."
Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Croeso Cymru fel rhan o strategaeth dwristiaeth Llywodraeth Cymru.